1. NID all dim wneuthur niwed i ni ond Pechod; ac ni chaiff hwnnw wneuthur mo'r niwed i ni os medrwn ni edifarhau am dano. Ac ni all dim wneuthur i ni dda, ond Cariad a ffafor Duw yn Ghriſt; a hynny a gawn ni, os nyni a'i ceiſiwn mewn gwirionedd.
2. Nid oes nêb mewn cyflwr toſturus, ond yr hwn ſydd ganddo galon galed, ac ni fedro weddio.
3. Cymmaint ag a fyddo o Bechod, cymmaint a hynny a fydd o Drymder: Cymmaint ag a fyddo o Sancteiddrwydd, cymmaint a hynny a fydd o Hapyſrwydd.
24. Gwna dy Bechod i ti yn Driſtwch mwyaf; felly ni chaiff dy Driſtwch bŷth wneuthur i ti niwed; Gwna Jeſu Ghriſt yn llawenydd mwyaf i ti; felly ni bydd arnat ti bŷth mor diffyg llawenydd.
5. Y Gŵr y mae Gantho Yſpryd Gweddi, ſydd gantho fwy nâ phe bai yr holl fyd ar ei helw.
6. Dau beth a orchymynnodd ef i Gwpl o rai Priod, Gofalon ac ymryſonau: Am y cyntaf, Bydded eich Gofalon, Pa un a rynga fodd i Ddaw yn fwyaf: Am eich Ymryſonau, bydded iddynt fôd, Pa un a garo eu gilydd oreu: Felly y bydd eich, Gofalon a'ch Ymryſonau i ryw ddefnydd da; ac felly pob Gofalon ac Ymryſonau afreidiol a ddiflannant.
7. Os ydych chwi mewn yſtâd Briodol, Gwybyddwch, a choeliwch, er y gallaſech gael Gwraig neu wr gwell neu gyfoethoccach; etto byddwch ſiccr, na allaſech chwi fyth gael un cymmhwyſach: Oblegid ei fôd wedi ei ordeinio felly gan Dduw yn y Nefoedd, cyn y gellid ei gyflawni ymma ar y ddaiar: Ac am hynny, er nad ydys yn cyflawni cariad i ti yn ôl; etto gwna di dy ddyledſwydd tuag at dy Briod, o ran ufudd-dod i Dduw; a thi a fyddi Siccr o gael cyſſur yn y diwedd, er i Dduw dy drin di â Cheryddon dros amſer.
8. Ni ddichon dim Cyſtuddiau, neu Drueni ddigwydd i ni, ond trwy Ordinhâd Duw; ac ni allant wneuthur niwed i ni, eithr rhaid yw3 iddynt wneuthur da i ni, os ydym ni Blant I Dduw. Eithr yn gyntaf, Byddwch ſiccr na chymmyſgoch ddim pechod â hwynt; canys hynny yn unic ſy'n eu chwerwi hwynt: yn ail, Nac edrychwch ar y Wialen, ond ar yr hwn ſy yn taro; canys hynny a bair ymddigio a deffygio hefyd.
9. Os wyt ti yn chwennych bod yn ſiccr fôd dy bechodau wedi eu maddeu iti; Cais faddeu y Cammau, a'r Niweidion a wenler i tithau, Mat. 6.14, 15. Yſtria bedwar peth ir diben ymma: 1 Siampl Criſt, yr hwn a faddeuodd iw elynion ac a weddiodd droſtynt. 2 Gorchymmyn Cirſt, Pan weddioch, maddeûwch os bydd gennych ddim yn erbyn neb. 3. Addewid Criſt, Os maddeuwch, maddeuir i chwithau. 4. Bygythiad Criſt, Oni faddeuwch, ni faddeuir i chwithau.
10. Ym mhob Trueni a Chyfyngderau; goreu doethineb yw myned at y Cyfaill hwnnw ar ſydd neſſaf, ewyllyſgaraf, ac applaf i gynnorthwyo; y cyfryw Ffrind yw Duw.
11. Mynych y dywedai ef; Nad oedd iddo achos yn y byd i gwyno rhag ei Groeſau; gan nad oeddynt ond chwerw ffrwyth ei bechodau ef.
12. Lle mae Pechod yn drwm, mae croeſau yn y; ſgafn; ac yn y gwrthyneb, lle mae croeſau yn drymion, Pechodau ydynt yſgafn.
13. Naill ai Gweddi a bair i ddyn beidio a phechu; neu y Pechod a bair i ddyn beidio a gweddio.
14. Pedwar peth a allwn ni ei ddyſgu oddiwrth4 wrth Blant: 1. Ni ofalant am ddim yn afreidiol. 2. Hwy a gyſgant yn ddifalis. 3. Maent yn fodlon iw cyflwr. 4. Maent yn oſtyngedig; Plentyn i Frenin a chwery a Phlentyn i Gerdottyn.
15. Nid oes un Cyſtudd cyn lleied, na ſuddem ni dano, oni bai fod Duw i'n cynnal; ac nid oes un Pechod mor favor, na wnaem ni ef, oni bai fod Duw yn ein hattal.
16. Os rhoddir anfri i ni, neu ein difenwi, neu os gwneir a ni gam gan gyfaill neu elyn, fe ddylei fod yn flinach gennym ni o ran y pechod a wneir yn erbyn Duw, nag o ran y ſarhaad neu'r ammarch a wneir i ni ein hunain.
17. Mae gwr Duwiol yn debyg i Ddafad; pob man ſydd well o'i blegid lle y delo. Gŵr annuwiol ſydd debyg i Afr; pob man ſydd yn waeth o'i blegid; gado y mae ef ſawyr drewllyd ar ei ôl.
18. Cyſtuddiau wedi eu ſancteiddio ydynt or•chafiaethau, neu dderchafiadau yſprydol; ac y maent yn llawer gwell i Griſtion, nà 'r holl Arian a'r Aur yn y bŷd; gan fod profiad ein ffydd yn werthfawroccach ná' r Aur, 1 Pe. 1.7.
19. Gwna 'r Sabbath yn ddydd marchnad i'th Enaid. Na ollwng un awr i golli, ond bydd naill ai yn Gweddio, ai yn ymddiddan, ai yn Myfyrio. Na feddwl dy feddyliau dy hun; Caffed pob diwrnod ei ddyledſwyddau; tro y Bregeth a glywech yn ddefnydd o Weddi; Addyſc yn Erfyniad, Argyoeddiad yn Gyffes; Cyſſur yn5 ddiolchgarwch. Meddwl lawer am y Bregeth a glywaiſt, a gwna ryw ddefnydd o honi yr holl wythnos o hŷd.
20. Bob boreu trwy 'r wythnos rhag-fwrw; 1. Rhaid i mi farw. 2. Mi a allaf farw cyn y nôs 3. I ba le yr â fy enaid, ai ir Nêf ai i vffern: Bob nôs gofyn ith enaid y Cweſtiwnau hyn.
1. A ddarfu i mi ddwywaith heddyw ymddaroſtwng ger bron Duw o'r neilltu? 2. Pa fodd y gweddiais? Ai mewn ffydd a chariad? 3. Beth a fu fy Meddyliau arno y dydd heddyw? 4. Beth y fum i y•ei wneuthur yn fy lle a'm galwedigaeth? 5. Beth a fum i mewn Cwmpeini? A leferais i am bethau da? neu a wrandawais i, a rhoddi i gadw gyda Mair y pethau da a glywais? 6. Os adnewyddodd Duw Drugareddau gyda'r boreu, a fûm i ddiolchgar? 7. Os cyfrannodd y diwrnod i mi achos o drymder, a ymddigiais i? Ynteu a orweddais i yn y llwch ger bron Duw? Pan Darfyddo i chwi wneuthur fal hyn; lle y buoch chwi yn ddeffygio!, cyfaddefwch hynny yn athriſt; a llai a fydd y gwaith i chwi iw wneuthur pan ddelo marwolaeth. Gwna fel byn uniawn gyfrif âth Dduw bob nôs. Hyn a fu fy helyn•feunyddiol i, ac a gaiff fod yn arfer i mi nes fy marw.
21. Yr hyn a ennillom ni drwy Weddi, ni a gawn ei fwynhau mewn diddanwch.
22. Mae Sicerwydd dau-ddyblyg. 1. Siccrwydd Haul-gan. 2. A Lloergan. Y cyntaf yw y llawn ſiccrwydd hwnnw yn Heb. 10.22. Y Lloergan yw hwnnw o'r Gair, yr hwn da y gwnawn fod yn dal arno, 1 Theſ. 1.5. 2 Per. 1.19. Y cyntaf ni roddir ond i ychydig, na hynny ond yn anfynych; a hynny naill ai ar ryw ddyledſwydd fawr iw chyflowni; neu ryw gyflwr newydd o fywyd i fyned iddo; neu ar ryw6 fowrion ddioddefiadau i fyned danynt; am yr hwn y dywaid un, yr oriau (neu r'awrau) y daw, nid ydynt ond anfynych, a byrr y mae yn aros. Yr ail yw yr hwn y rhaid i ni ymddiried iddo, Rhoi goglud ar ſiccr Air Duw, diwy ffydd o Ymlyniad, pan ydym ni heb y llall, ſef yſpryd o lawn Siccrwydd.
23. Am gyſſur pobl Duw, efe a ddaliodd ſulw allan o'r 129 Pſalm, Er bod yr annuwiol yn Arddwŷr ar y Cyfiawn, ac aredig o honynt yn ddwfn, a gwneuthur cwyſau hirion, a hefyd aredig eu calonnau hwynt allan, pes gallent; etto yr Arglwydd cyfiawn, yr hwn ſy yn eiftedd yn y Nefoedd, ſy yn chwerthin am eu pennau, ac yn torri eu Tidau, a'u rhaffau; ac yna nid allant aredig dim ychwaneg.
24. Yn achos Erlidiadau a Dioddefiadau eraill, fe ddylei pobl Dduw yſtyried yn ddifrifol y pedwar peth hyn: 1. Duw ſydd yn mynni iddynt fod, ac yn eu hanfon; Weithian Ewyllys Duw fydd berffaith Reol Cyfiawnder; a'r hyn y mae Duw yn ei wneuthur, a wnaethpwyd cyſtal, nas gallai mor bod wedi ei wneuthur yn well. 2. Mae yn rhaid wrthynt, oni bai hynny ni chaem ni mo honynt. 3. Eu rhifedi, eu meſur, a'u parhâd a benderfynnwyd gan Dduw; nid ydynt ond tros ennyd fechan, nac yn parhau ond ychydig ddyddiau, Dat. 2.10. nid ydynt rŷ drymion, rŷ aml, neu rŷhir, fel y mynnei 'r Cythrel iddynt fôd; na rhŷ-anaml, rhy-fyrrion, neu rŷ-yſgafn, fel y mynnei ein naturiaeth lygredig iddynt fôd. 4. Ei diwedd ſydd bwys o ogoniant, a'r Goron a'u canlyn. ſydd dragwyddol, 2 Cor. 4.17.
25. Tri pheth a bair i ddŷn ei gyfrif ei hun yn ddedwydd ymma ar y Ddaiar. 1. Cael yſtâd7 dda: 2. Ei chael hi mewn lle. da: 3. With gymmydogion da. Yn awr. y tri hyn y mae y rhai ſydd yn meirw yn yr Arglwydd, yn eu mwynhau mewn modd rhagorol.
1. Eu Nefol Etifeddiaeth ſydd fawr, Ni welodd llygad, ni chlywodd cluſt y cyffelyb, 1 Cor. 2.9 2. Mae hi mewn lle da, 2 Cor. 5.1. Y Nefoedd, yr hwn ſydd Dy a wnaethpwyd iddynt hwy, ac a wnaethpwyd gan Dduw; ac am hynny mae'n rhaid iddo fod yn dda. 3. Yn agos at Gymmydogion da: Duw, Criſt, yr Yſpryd, Angelion, a Seintiau. Yr oedd gan Adda Etifeddiaeth dda, ac mewn lle da; ond yr oedd ganddo Gymmydog drwg, ſef y Gythrael, yr hwn ai blinodd ef, ac a anafodd y•wbl. Ond nid oes dim cymmydogion drwg yn y Nefoedd.
26. Nid yw Dioddefiadau pobl Dduw yn rhwyſtro eu Gweddiau hwynt. Elias oedd ddyn yn rhaid iddo ddioddef fel ninnau, ac efe a weddiodd ac a wrandawyd, Jac. 5.17.
27. Tri pheth ſydd yn cyd-ymganlyn i wneu. thur i fynu y pechod yn erbyn yr Yſpryd glàn, 1. Goleuni yn y meddwl. 2. Malis yn y galon. 3. Yr anheimlad o'r pechod. Y nêb ſy yn ofni ddarfod iddo ei bechu ef, ni phechodd ef mo hono•rioed.
28. Y rheſwm pa ham na weithir ar lawer ſydd tan nerthol foddion Grâs, lley mae llaweroedd ar ſy yn byw o bell, ac yn dywad yn anfynych tan Bregethiad nerthol, yn cael gweithio arnynt drwy hynny, efe a arferei oi roddi drwy'r gyffelybiaeth yma: Megis mewn Tref farchnad, nid oes cymmaint matter gan bobl y Dref am bethau fy yn y farchnad, a chan y rhai ſydd yn byw yn y wlàd; maent hwy yn dyfod i brynu, a rhaid yw fddynt wneuthur8 felly; a hwy a fynnant gael y peth ſydd arnynt ei eiſiau, beth bynnag a dalont am dano; lle mae y rhai ſy yn byw yn y Dref, yn tybied y gallant brynu, pa amſer bynnag y gwelont yn dda, ac felly yr eſceuluſant brynu yn yr amſer preſennol; ac o'r diwedd, maent yn fynych iawn yn cael eu ſiommi a'u twyllo.
29. I'n perſwadio ni i•idio a rhoi ſen am fen, efe a ddywedai; Os Ci a gyfarth ddafad, ni chyfarth y ddafad mo'r Ci.
30. Pedwar O Reſymmau a roddai fo yn erbyn Gofalon anghymhedrol am bethau daiarol, fel na ddianrhydeddem Duw, na'i wadu. 1. Maent yn afreidiol. 2. Maent yn anifeilaidd. 3. Maent yn anfuddiol. 4. Maent yn arfer o ddilyn y Cenhedloedd.
1. Yn afreidiol: Pam y rhaid i ni ofalu, a Duw hefyd? Gŵr ein Tad nefol fod arnom eiſeu y pethau hyn, a pheri y mae ef i ni, na ofalom am ddim, ond bwrw ein gofal arno ef, yr hwn ſy yn gofalu droſom ni. Mat. 6.32. 1 Pet. 5.7.2. Yn afreidiol: Pam y rhaid i ni ofalu, a Duw hefyd? Gŵr ein Tad nefol fod arnom eiſeu y pethau hyn, a pheri y mae ef i ni, na ofalom am ddim, ond bwrw ein gofal arno ef, yr hwn ſy yn gofalu droſom ni. Mat. 6.32. 1 Pet. 5.7. 2. Yn anifeilaidd, ie a gwaeth nag anifeilaidd: Edrychwch ar adar y nefoedd, a'r cygfrain, y mae efe yn eu porthi bwynt, er nad ydynt yn llafurio, Mat. 6.26. 3. Maent yn Anfuddiol ac yn ddilès. Pwy o honoch gan ofalu a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli, neu vn geiniog at ei olud, Mat. 6.27. 4. Arfer y Cenhedloedd yw, yr holl bethau byn y mae y Cenhedloedd yn eu ceiſio, Mat. 6.32.
31. Mae bagad yn y byd yn cymmer•d yr enw o fod yn Sainct ar dyb da eraill am danynt; ac yn marchanatta yn nyledſwyddau Crefydd, ar y goel a ennillaſant oddiwrth Opiniwnau da rhai eraill am danynt hwy, a'u proffeſs: Credu y maent eu bod eu hunain yn Griſtianogion, oblegid bod eraill yn gobeithio eu bod hwy9 felly, ac hwy a negeſeuant à zêl gwreſog, mewn dyledſwyddau ſy yn ſ•fyll oddiallan, i gynnal eu Henw da; eithr ni edrychant un amſer am y Stocc o gadarn Râs oddifewn; a hyn ſydd yn anafu llawer.
32. Fel yr ydym ni yn darllen am fara beunyddiol, felly hefyd am Groes feunyddiol, Luc 9.23. yr hon y perir i ni ei chodi, nid ei gwneuthur. Nid rhaid i ni mor gwneuthur Croeſau i ni ein hunain (fal yr ydym ni yn rhy barod i wneuthur) ond gadawn i Dduw eu gwneuthur hwynt i ni: Croeſau a wneir yn y Nefoedd, fydd fwyaf cymmwys i gefnau'r Sainct; ac ni waſanaetha i ni moi rhoddi hwy i lawr, nes iddynt hwy a ninnau orwedd i lawr ynghyd.
33. Ymadrodd hynodol oedd hwnnw o'r eiddo Gwr ſanctaidd, Diffoddwch uffern, a lloſgwch y Nefoedd, etto myfi a garaf, ac a ofnaf fy Nuw.
34. Nid crochlefain yn erbyn y Cythrael, nac ymadroddi yn erbyn Pechod mewn Gweddi, neu Ymddiddanion; ond ymladd â'r Cythrael, a marweiddio ein Trachwantau, yw'r hyn y mae Duw yn bennaf yn edrych arno.
35. Y m•e'r Proffeſ•wr gwâg yn Siommi neu'n twyllo dau ar unwaith; Y Byd, yr hwn wrth weled dail, ſy yn diſgwyl ff wythau, ond nid yw yn caet dim. 2. Ei hunan, yr hwn ſy yn tybied cyrraedd y Nefoedd, ond ſy yn dyfod yn fyrr o honi.
36. Yr unig ffordd i Enaid cyſtuddiol, ni fedro ymafaelio neu ymaflyd mewn Cyffurau o'r blaen, oblegid Gwrthdroeadau neu bechodau ar ôl, ac felly ſy yn ammeu ei holl ſiccrwydd o'r blaen, yw, Adnewyddu ei Edifeirwch, fel pe buaſei ef heb gredu erioed.
37. Hawdd gan rai feddwl pe baent yn y cyfryw Deulu, dan y cyfryw Weinidog, allan o'r10 cyfryw Demptaſiwnau, nad ymmyrrau'r Cythrael â hwynt, fel y mae. Eithr y cyfryw rai a ddylaent wybod. Mai cyhyd ag y byddo ei hen Gyfaill ef, ſef y cnawd yn fyw oddi fewn, y bydd ynteu yn curo wrth y drws oddia; llan.
38. Yr hadau a hauwyd yn Naturiaeth Diafol a'r Sainct ydynt cyn ddyfned, na ddiwreiddir hwy byth, hyd oni pheidio y Cythrael a bod yn Gythrael, a Phechod a bod yn Bechod, a Sainct a bod yn Sainct.
39. Melinydd Diafol yw'r pechadur, yn malu yn waſtadol; ar Diafol ſydd yn waſtad yn llenwi yr Hoppran, neu'r pin fel na ſafo'r felin.
40. Mae rhai pechodau na feidr dyn anwybodus moi Gwneuthur; eithr y mae llawer ychwaneg na feidr dyn anwybodus ond eu gwneuthur.
41. Y mae pump o rwymau, â phâ rai y rhwymodd Duw'r Nefoedd ef ei hun i fod yn Gard neu'n Geidwad i gadw einioes y Sainct, yn erbyn Gallu y Tyw•llwch. 1. Ei berthynas iddynt megis Tâd, 2. Ei Gariad ef iddynt, o ran ei bod hwynt yn Eſgoredigaeth ei Gyngor•ragwyddol ef, megis cyfrannogion o'i Lûn if ei hun. 3. Pridwerth Gwaed ei fab, a'i Gyfammod â hwynt. 4. Eu Goglud arno ef, a'u Diſgwyliad oddiwrtho, yn eu holl gyfngderau: yn awr Diſgwyliad a gobaith y trueiniaid ni chollir bŷth, Pſalm 9.18. 5. Gwaith preſennol Criſt yn y Nefoedd, yw edrych am fod pob peth yn cael ei ddwyn rhagddo yn dêg rhwng Duw â'i Bobl.
42. Bara haidd gyd à'r Efengyl ſydd ymborth dà.
DATTODIAD Y Qweſtiwn Mawr, Beth ſydd raid i ni ei wneuthur fel y byddom GADWEDIG.
ATHRAWIAETHAU I Fuchedd Sanctaidd.
O feiſtred, beth ſydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf Gadwedig?
Heb ſancteiddrwydd ni chaiff neb weled yr Arglwydd.
O waith y Difinydd Parchedig Mr. Richard Baxter.
Printiedig yn LLVNDAIN gan Tho. Whitledge a W. Everingh••, 1693.
Er Cyfarwyddiad Perſonawl, ac addyſg Teuluaidd. Ynghŷd a dau Catechiſms Byrrion, a Gweddiau.
Dynion anwybodus nis gallant gofio hir a llawer eiriau, na deall dull ar ymadrodd byr ac ychydig eiriau. Gan hynny ammhoſſibl ydyw Scrifennu4 Catechiſm yr hwn nis bydd yn anghyfattebol naill a'i ddeall neu i goffadwriaeth y cyfryw; Rhaid i mi gan hynny ddymuno ar y dyſgawdwr i wneuthur i fynu y diffyg anocheladwy hwn. Trwy agor meddwl (yn enwedigol y Catechis's) i'r plant a'r Gweiſion, gwedi darfod iddynt ddyſgu a dywedyd y geiriau. Darllennwch yr Hyfforddiadau yn fynych iddynt, a Chymellwch y cwbl fel yr cloch ymmlaen ar eu ſerchiadau hwynt; canys geiriau noeth yn unic heb fforddwr Preſennol, allant fod yn golledig i gyd oll.
ER bôd jechydwriaeth eneidiau yn fatter o bwys anrhaethadwy(a)Mar. 8.36. Mat. 6.33. Job 21.14. ac 22.17. Pſal. 1.2.3. Pſal. 14.1. ac 12.1. etto (yr Arglwydd a gymmero drugaredd arnynt;) Pa liaws ſydd yn tybied nad yw hynny yn haeddu eu holiad difrifol hwynt. Neu ar ddarllen6 o honynt lyfr da un awr yn yr wythnôs? Er mwyn y pechaduriaid diofal, diog hyn, mi a leferais yma lawer mewn lle bychan, fel na bo iddynt wrthod darllen, ac yſtyried gwers mor fer, oddi•ithr eu bôd yn tybied na thâl eu heneidiau hwynt ddim. Pechadur, megis ac yr attebi hynny ar fyrr amſer ger bron Duw, na nacca i Dduw, i ti dy hun, ac i minneu, ar i ti ddwys yſtyried, ac ymarfer yn ffyddlon yr ychydig hyfforddiadau hyn.
1. Dechreu gartref ac adnebydd dy hun: Yſtyria beth ydyw bôd yn ddŷn(b)Pſal. 8. 4, 5, 6. Gen. 1. 26, 27. Gen. 9.6. Col. 3.10. fo'th wnaethpwyd yn greadur boneddigeiddiach nâ'r anifeiliaid. Hwy a'th waſanaethant di, ac a reolir genniti, ac mae marwolaeth yn diweddu eu hôll boen hwynt a'i hyfrydwch Ond mae genniti Reſwm i'th reoli dy hun a nhwythau; i g•dnabod dy Dduw, i ragweled dy ddiwedd, i wybod dy ffordd, ac i wneuthur dy ddyledſwydd. Dy Reſwm a'th ewyllys rhŷdd, a gallu i gyflawni, ydynt ran o ddelw Duw ar dy natur di; felly y mae dy Arglwyddiaeth di ar yr anifeiliaid, megis (dano ef) tydi yw eu perchennog, eu Rheolwr, a'i diwedd. Ond dy ddoethineb ſanctaidd di, a'th ddaioni, a'th allu ydyw rhan bennaf o'i ddelw ef, ar y rhai y mae dy ddedwyddwch di yn ſefyll. Mae genniti enaid yr hon nis gellir moi bodloni â gwybodaeth, hyd oni. Chyrhaeddo dy wybodaeth di ac Dduw ei hun(c)Joan 17.3, Joan. 4.6.7. Jer. 9.24. nis gâll neb arall ei threfnu, nai iawn reoli hi, (neu gyfeillach y bŷd) yn ol ei natur, heb edrych ar ei Awdurdod uchaf ef, ac heb obeithion o lawenydd, ac ofnau o drueni ar ôl7 hyn(d)Luke 12.4, 5.: Nis gall fôd yn happus mewn dim, ond yn gweled, a charu, ac ymhyfrydu yn y Duw hwn megi•ac y mae yn ddatcuddiedig yn y bŷd arall(e)Pſal. 16.5, hyd 11.. Ac ydyw'r natur hon gwedi ei rhoddi i ti yn ofer? Os cymmhwyſwyd natur pôb peth at ei ddefnydd a'i ddiwedd,(f)Iſa. 45.18. yra rhaid bôd felly gydâ'th eiddo ti.
2. Yna trwy dy Adnabod dy hun rhaid i ti wybod fôd Duw, Heb, u. 6. Ac mai efe yw dy wneuthurwr, Pſal. 100. 3. Ac aneirif ym mhôb perffeithrwydd, ac mai efe yw dy feddiannudd, a'th Reolwr, a'th ddedwyddwch, neu'th ddiben pennaf. Mae, r dyn yn(gPſal, 14.1. Gen. 1.1. Rev. 1.8. Rhuf. 1.19, 20, Pſal. 46.10. Pſal. 9.10. pſal 100. ac Pſal. 25. Pſal. 19. 1, 2, 3, Pſal 47.7. Ezek 18.4. Gen. 18.25. Mal. 1.6. ynfyd nad yw yn gweled, fôd gan y cyfryw greaduriaid achos, neu wneuthurwr. A bod holl Allu, a doethineb, a daioni'r bŷd, yn dyfod oddiwrth Allu, a doethineb, a daioni, ſydd fwy nâ hwnnw o'r l. ôll fŷd. A phwy yw ein Meddian-nudd ni, ond yr hwn a'n gwnaeth ni? A phwy yw ein Rheolwr uchaf ni, ond ein perchennog? Ei aneirif Allu, doethineb a daioni ſydd yn ei wneuthur ef yn unic yn gymmwys i hynny. Ac os efe yw ein Rheolwr ni, rhaid yw bôl ganddo gyfreithiau ynghŷd â gobrwyon i'r da, a choſpedigaethau i'r drwg, a rhaid iddo farnu a chyflawni yn eu hôl hwynt. Ac os efe yw ein pennaf wneuthurwr daioni, a bôd y-cwbl ſydd gennym oddiwrtho ef, a'n hôll obaith a'n dedwyddwch ni ſydd ynddo ef. Nid8 all dim fôd eglurach na bod Natur dŷn yn profi y dylai efe mewn gobaith o ddedwyddwch i lwyr roddi ei hunan i fynu i ewyllys a threfniad y Duw hwn, ac y dylai ef yn hollawl ufyddhau iddo(h)Math. 22.33. Jer. 5. 22, 1. 2 Cor. 5.8, 9. Titus 2.14. 2 Cor. 8.5. & 6. 16, 17, 18. 1 Pet. 2. 9* Pſal. 37.4. Pſal. 40.8. Col. 3, 1, 2. Mat. 6.20, 21. 2 Cor. 4. 17, 18. ac y dylai ef ei garu, a, i waſanaethu ef a'i holl allu. Yn gymmaint a bod yn ammhoſſibl caru, ufyddhau, a rhyngu bodd y Duw hwnnw yn ormod, yr hwn ſydd fel hyn ein achos, ein diwedd, ein cwbl.
3. Trwy dy adnabod dy hun a. Duw fel hyn. Mae yn hawdd gwybod beth ydyw prif ſancteiddrwydd a Duwioldeb. Sef y rhoddiad hon i fynu o'r Enaid a'r galon, i Dduw yn bur ac yn hollawl, megis yr aneirif Allu, Doethineb, a Daioni, megis ein Creawdwr, e•n Perchennog, Llywodraethwr, a'n dedwyddwch neu ein diwedd. Gan ymddaroſtwng yn hollawl iw drefniad ef, ufyddhau iw gyfreithiau ef, mewn gobaith o'r Gobrwyon a addawodd efc, ac ofn y coſpedigaethau a fygythiodd efe: A charu ac ymhyfrydu ynddo ef ei hun, a i holl eglurhâdau ef yn y byd; ac ewyllyſio a cheiſio didrangc olwg a mwyniant o hono ef yngogoniant nefol, ac egluro y ſerchiadau hyn beunydd mewn gweddi, diolchgarwch, a mawl. Hwn yw defnydd dy holl Alluoedd di, diben a gorchwyl dy fywyd ti, iechyd a dedwyddwch dy enaid ti: Hon ydyw y ſanctieiddrwydd neu'r Dduwioldeb y mae Duw yn galw yn gymmaint am dani.
94. A thrwy hyn mae yn hawdd gwybod, beth ydyw cyflwrkPſal••&••H〈…〉2. •4 Rhuf. 8. 12, 13. Jo•n 3. 34,〈…〉1 Joan 2.15, 16. Rhuf. 13.13.14. Rhuf 6.16. 〈◊〉18. 23 ac 14. 26, 33. o bechod, ac annuwioldeb, ſef eiſieu yr holl ſancteiddrwydd hon, a goſodiad hunan gnawdol yn lle Duw. Pan ydyw dynion yn falch fawrion, ac yn ddoethion, ac yn dda yn eu golwg eu hunain; ac a fynnent drefnu eu hunain a'i holl achoſion, ac a fynnent reoli eu hunain, a rhyngu bodd iddynt eu hunain, yn ôl chwant cnawdol, a naturiaeth; am hynny caru y maent fwyaf hyfrydwch, ac elw, ac anrhyded y bŷd, megis bwyd i fodloni dymnniadau'r cnawd; a Duw ni chaiff ei garu, ei ufyddhau, neu ryngu ei fodd ddim pellach nag y rhydd cariad hyfrydwch cnawdol gennad, ac ni chaiff ddim, ond yr hyn all y cnawd e•hepcor. Cyflwr drygianus, Cnawdol; annuwiol yw hwn, er ei fôd yn torri allan mewn amryw ffyrdd o bechu.
5. Wrth hyn, profiad ei hun all ddywedyd i chwi fod y rhan fwyaf o ddynion (ie pawb(l)Rhuf. 3. Pſal 14. Epheſ. 2.2, 3. Rhuf. 5.12, 17, 19. Joan, 3.6., hyd oni adnewydda grâs hwynt) yn y cyflwr annuwiol truenus hwn: (Er bod yr ſcrythur yn unic yn dywedyd i ni pa fodd y daeth hyn) er nad vw pawb yn odineb wyr, yn feddwon; yn gribdeilwyr, neu erlidwyr, nac yn byw yn yr un ffordd o bechu Etto bo•heb hunanymwadiad, vn falch ac yn anianol, yn caru pethau daiarol, vn anwybodus, ac yn annuwiol, y pecho au hvn yn eglur aethant yn llygredigaeth c•ffredinol natur dyn; megis ac y troir eu calonnau hwynt at y bŷd oddiwrth Dduw. 10Ac a lenwir ag annuwioldeb, aflendid, ac anghyfiawnder, a'i rheſwn hwynt nid yw ond gwas iw ſynhwyrau, a'i meddwl neu eu ſynniad, ai cariad, ai bywyd, ſydd gnawdol; a'r ſynniad cnawdol hwn ſydd elyniaeth yn erbyn ſancteiddrwydd Duw, ac nis gall fod yn ddaroſtyngedic iw ddeddf ef:(m)Rhut. 8. 5, 6, 7 y llygredigaeth hon treftadol ydyw, ac aeth megis yn natur i ni, yn gymmaint ai fod yn glefid marwol ein naturiaethau ni i gyd. Ac hawdd ydyw gwybod y bydd rhaid i'r cyfryw natur aflan, annuwiol fod yn ffiaidd gan Dduw ac(n)Pſal. 43. 2 cor. 6. 14 '17 yn anghymwys i fwyniant happus ei gariad ef, naill a'i yma, neu yn y bywyd a ddaw canys pa gymundeb fydd rhwng goleuni a thywyllwch?
6. Yna oddiyma hawdd ydyw gweled, pa râs ſydd anghenrheidiol i iechydwriaelh dŷn. Rhaid i'r creadur atcas hwn, y gwrthryfelwr aniolchgar hwn, yr hwn ſydd wedi troi ymaith oddiwrth Dduw, ac wedi ymoſod yn ei erbyn ef, ac wedi ei halogi â'r holl fudreddi hwn o bechod, gael ei(o)Pſal 32. 1, 2. 1 Cor 6. 11. Tit. 2. 14. Tit. 3. 5, 6, 7. Heb. 14.14. Mat, 5, 8. adnewyddu a'i gymmodi, ei ſancteiddio, a chael Maddeuant, os efe a fyn fyth fod yn Gadwedig Caru Duw, a chael eu garu ganddo ef, ac ymhyfrydu yn hynny, yngolwg ei ogoniant ef, ydyw Nefoedd a happuſrwyd eneidiau; a hyn oll fydd w•thwynebol i gyflwr aflan, diſanctaidd. Hyd oni chaffo dynion galonnau newydd a ſanctaidd, nis gallant na gweled Duw, nai garu ef, nac ymhyfrydu ynddo, nai gymmeryd ef am eu bodlonrwydd pennaf; canys gan y cnawd a'r bŷd y mae eu hyfrydwch a'u cariad. Ac hyd oni faddeuer pechod a chymmodi o Dduw11 â'r enaid,(p)Rhuf. 5. 1, 2, 3. pa lawenydd neu heddwch all yr enaid ddiſgwyl oddiwrtho ef, natur yr hwn a'i gyfiawnder ſydd yn ei rwymo iw ffieiddio ac iw goſpi?
7. A phrofiad a ddywed i chwi, mor(q)1 cor. 2. 11, 12. 2 Pet 1.3. anigonol ydych chwi eich hunain i bob un o'r ddau waith hyn; I adnewyddu eich Eneidiau, neu iw cymmodi hwynt â Duw. A fydd i natur gnawdol wrthwynebu, a gorchfygu y cnawd, ffieiddio y pechod yr hwn y mae yn dra anwyl yn ei garu? A orchfyga meddwl bydol cnawdol y bŷd? Gwedi i ddefod neu gwſtom wreiddio eich llygredigaethau naturiol chwi, ydyw yn hawdd eu dadwreiddio hwynt? O pa waith mawr a chaled ydyw gwneuthur i bechadur dâll anghredadwy oſod ei galon ar fŷd arall, a thryſori ei holl obaith yn y Nefoedd, a bwrw ymaith yr holl bethau y mae yn eu gweled, am y Duw hwnnw, a'r gogoniant yr hon ni welodd efe erioed! Ac i galon galed, fydol, gnawdol, fyned yn ddoeth ac yn dyner, ac yn fanctaidd, ac yn nefol, ac i ffieiddio y pechod yr hwn y mae fwyaf yn ei garu! Ac beth allwn ni wneuthur i fodloni cyfiawnder, ac i gymmodi y cyfryw enaid gwrthryfelgar â Duw?
8. Gwedi darfod i natur, a phrofiad eich gwneuthur chwi yn gydnabyddus â'ch pechod, â'ch trueni, a pheth ſydd eiſieu arnoch chwi; a ddywed ymmhellach i chwi nad ydyw Duw(r)Act. 14.17. ac 17; 24, 27, 28. Rhuf. 1. 19, 20. Rhuf. 2.4. Joh 34.14, hyd 25. Mau 12. 42, 43.12 etto yn gwneuthur â chwi yn ôl eich haeddedigaethau. Mae efe yn rhoddi i chwi fywyd ac amſer, a thrugareddau, pan oedd eich pechodau wedi fforffettio y rhai hyn oll. Mae efe yn eich rhwymo chwi i edifarhau a throi atto ef. Ac am hynny gan fod profiad yn dywedyd i chwi fod peth gobaith, a bod Duw wedi cael rhyw ffordd arall i ddangos trugar edd i, blant digofaint, Rheſwm a orchymyn chwi i ymofyn a phawb ſydd gymniwys i'ch dyſgu chwi, pa ffordd o feddyginiaeth a yſpyſodd Duw. Ac megis ac a gellwch chwi yn fuan ganfod, fod crefydd y ceneddloedd, a'r Mahometaniaid, cyn belled oddiwrth ddangos y gwir feddyginiaeth, fel y maent yn rhan o'r clefid ei hun; felly chwi ellwch ddyſgu, ddar fod i'r perſon Rhyfeddol(s)Iſa 9.6, 7. ac 53. Joan 3. 16, 19. ac〈…〉I, 34, ac 3.2. * Joan 1.18. yr Arglwydd Jeſ Griſt gy mmeryd arno y ſwydd o ſod yn Bryn wr ac Achubwr y bŷd; a darfod iddo ef yr hwn ydyw y gair tragwyddol, a doethineb y Tad, vn rhyfeddol ymddangos yn natur dŷn, yr hon a gymmerodd efe oddiwrth y forwyn Mair, a gaed trwy'r yſpryd Glan; ac fel y bydddei ini gael dyſgawdwr wedi ei ddanfon o'r * Nefoedd, i wneuthur y bŷd yn gydnabydd•yn ddidwyll, ac yn hawdd ag Ewyllys Duw ac â phethau anweledig bywyd tragwyddol Pa fodd y dygodd Duw dyſtioiaeth iw(t)Acts 2. 22 Heb. 2. 3, 4. wirionedd ef, trwy wyrthiau ami, agored, ac na•gellir moi gwrthddadleu(u)Mat 4. thyd II. Pa fodd y darf•iddo ef orchfygu Satan a'r bŷd, ac a roddes13 ni ſiampl o Gyfiawnder perffaith,(w)•Pet. 2. 22, 23, 24, 25. Mat, 26. 67 68. Act. 1. Heb, 4. Eph, 1.22, 23, Rhuf. 5. 1, 3, 9. Heb. 8.9, 15. ac 8, 6, 7. Heb. 7. 25, 1 Joan 5. 10. Joan 5.22. ac 3, 18, 19. Mat. 25. ac aeth tan watwargerdd a chreulondeb pechaduriaid, ac a ddioddefodd farwolaeth y groes, megis Aberth tros ein pechodau ni i'n cymmodi ni â Duw: Pa fodd yr adgyfododd efe y trydydd dydd, ac a orchfygodd angeu, ac a fu fyw ddeugein nhiwrnod hwy ar y ddaiar, yn dyſgu ei Apoſtolion, ac yn rhoddi iddynt orchymyn i bregethu'r Efengyl i'r holl fŷd, ac yna efe a eſcynnodd yn gorphorol i'r Nefoedd, tra'r oeddynt hwy yn edrych yn ddyfal ar ei ol ef. Pa fodd y mae efe yn awr yn y Nefoedd yn Dduw ac yn ddŷn yn un perſon, Dyſgawdwr, a Brenin, ac Arch-offeiriad ei Eglwys. Ganddo ef y bydd rhaid i ni ddyſgu ffordd y bywyd, ganddo ef y bydd rhaid i ni gael ein rheoli megis Phyſygwr eneidiau: rhod dwyd iddo ef bob Awdurdod yn y Nef, ac ar y ddaiar. Trwy ei Aberth ef, a'i haeddedigaethau, a'i gyfryngdod y bydd rhaid i ni gael Maddeuant a bod yn gymmeradwy gydâ'r Tàd; a thrwyddo ef yn unic y bydd rhaid i ni ddyfod at, Dduw. Efe a wnaeth ac a ſiccrhaodd Gyfammod o râs, o'r hwn y mae Bedydd yn ſel: Sef [y bydd Duw ynddo ef yn Dduw i ni ac yn Dâd beddychol, ac y bydd Crist yn jachawdwr i ni, a'r yſpryd Glân yn ſancteiddiwr i ni, os nyni yn ddiragrith a gyttunwn, hynny yw os yn edifeiriol ac yn gredâdwy y rhoddwn i fyna ein hunain i Dduw y Tâd, Mâb, a'r yſpryd Glân yn yr amcanion neu fwriadau hynny.] Y cyfammod hwn yn ei ddull, gweithred ydyw o Roddiad, o Griſt14 a Maddeuant, ac iechydwriaech i'r holl fyd: os hwy trwy wir ffydd ac edifeirwch a ddychwelant at Dduw. A hon fydd y gyfraith yn ol yr hon y barna efe bawb ſydd yn ei chlywed hi yn y diwedd; canys gwnaethpwyd ef yn farnwr pawb, ac a gyfyd y meirw oll, ac a gyfiawnha ei ſainct, ac a'i barna hwynt i lawenydd a gogoniant didrangc, ac a farna yr anffyddloniaid diedifeiriol ac(x)Luke 16. annuwiol i ddidrangc drueni. Yr enaid yn unic a fernir ar farwolaeth, a chorph ac enaid yn yr Adgyfodiad. Yr Efengyl hon a bregethodd yr Apoſtolion i'r bŷd; ac fel y byddei yn rymmus i iechydwriaeth dynion, yr yſpryd Glân(y)Acts 2. Joan 17. 29. yn gyntaf a roddwyd i yſprydoliaethu ei phregethwyr hi, a'i nerthu hwynt i lefaru mewn amryw ieithoedd, ac i gyttuno yn ddidwyll yn un, ac i weithrio llawer o wyrthiau mawrion, ac amlwg i brofi eu gair i'r rhai y pregethaſant hwy. A thrwy 'r moddion hyn hwy a blannaſant yr Eglwys,(z)Mat. 28.19. Acts 14.23. Act. 20. Act. 26.17, 18. yr hon y bydd rhaid i weinidogion arferol amlhau, a'i dyſgu, a'i bugeilio, hyd ddiwedd y bŷd. Hyd oni cheſglir i mewn yr holl Etholedigion. A'r un(a)Rhuf. 8.9. Tit. 3. 5, 3 Joan 13.5, 6. yſpryd Glân a gymmerodd arno hynuy, megis ei waith ef, i fyned gydâ yr Efengyl hon, a thrwyddi i droi eneidiau dynion, eu goleuo, a'u ſancteiddio hwynt, a thrwy (b) Adenedigaeth ddirgel i adnewyddu eu natur hwynt, a'i dwyn hwynt i'r gwybodaeth hwnnw, ac ufydd dod, a chariad o Dduw, yr hyn ydyw y ſancteiddrwydd cyntaf, i'r hon i'n creuwyd ni,15 ac oddiwrth'r hon y ſyrthiaſom ni. Ac fel hyn trwy Jachawdwr, a Sancteiddiwr y bydd rhaid cymmodi, ac adnewyddu pawb a fynnant gael eu gogoneddu gydà Duw yn y Nefoedd. Hyn oll ellwch chwi ddyſgu oddiwrth yr ſcrythrau ſanctaidd y rhai a(c)27 Tim. 3.16. ſcrifenwyd gan yſprydoliaeth yr yſpryd Glân, ac a'u ſeliwyd trwy liaws o(d)Heb. 2.3, 4. wyrthiau eglur, ac yn cynnwys gwir lun ac argraff Duw, ac a'u Derbyniwyd a chadwyd gan yr Eglwys, megis ſiccr ymadroddion Duw, ac wedi eu bendithio ganddo o genhedlaeth i genhedlaeth, ymmhob oes i ſancteiddio llawer o eneidiau.
9. Gwedi i chwi ddeall hyn i gyd, mae yn amſer i Chwi i(e)e) Cor 13. 5 Pſal. 4.4. 2 pet. 1.10. edrych gartref, a deall yn awr pa gyflwr y mae eich Enedau chwi ynddo. Gwnaethpwyd dyn ar y cyntaf yn ſanctaidd, ac yn happus, chwi a ŵyddoch: eich bod chwi a phob dŷn wedi ſyrthio oddiwrth Dduw, a ſancteiddrwydd, a dedwyddwch, at hunan, a pechod a thrueni, chwi a ŵyddoch: eich bod chwi cymmhelled wedi eich prynu gan Chriſt chwi a ŵyddoch: megis ac y cynnygir i chwi Gyfammod o faddeuant ac iechydwriaeth, a Chriſt a thrugaredd a gynnygir i'ch dewis chwi. Ond a ydych chwi yn ffyddloniaid gwir edifeiniol, ac wedi eich adnewyddu gan yr yſpryd Glân ac felly wedi eich uno a ChrIſt? Hwn ydyw'r Queſtiwn etto heb ei ddattod, hwn ydyw'r gwaith ſydd etto iw wneuthur, heb pa un nid oes dim iechydwriaeth, ac os marw a wnei di cyn gwneuthur hynny, gwae iti fod o honot ti eriod yn ddŷn. Oddieithr i ddŷo16 gael ei(f)Joan 3.5. 2 Cor. 5.17. Rhuf. 8.7, 9. Phil. 3. 18, 20. adgenedlu gan yr yſpryd, a'i droi, ai wneuthur yn greadur Newydd, ac o gnawdol ei wneuthur yn yſprydol, ac o ddaiarol ei wneuthur yn Nefol, ac o hunan a phechadurus ei wneuthur yn ſanctaidd ac yn ufydd i Dduw, nis gall efe fyth fod yn gadwedig, mwy nac a gall y cythrael ei hun fod yn gadwedig. Ac os ydyw hyn felly (megis nad oes dim ſiccrach) yr wyf yn ceiſio gennit yn awr, yr hwn wyt yn darllen y geiriau•yn, megis ac yr wyt ti yn yſtyried dy iechydwrlaeth, megis ac y mynnit ti ddiangc rhag tân uffern, a ſefyll yn gyffurus ger bron Griſt, a'i Angelion ef yn y diwedd, ar iti yn ddifrifol yſtyried onid ydyw Rheſwm yn Gorchymyn i ti brofi dy gyflwr; a wyt ti fel hyn(g)Act 16.14. wedi dy adnewyddu gan yſpryd Criſt a'i nad wyt? Ac i(h)Act 2.37. ac 16.30. ac II. 23. 2 cor. 6. 1, 2. Dat. 2.7. alw am gymmorth gan y rhai hynny a fedrant dy gynghori di, a chanlyn ar chwilio hyd oni ddel•ch i wybod dy gyflwr. Ac os yw dy enaid ti yn ddieithr i'r gorchwyl hwn o ſancteiddiad, onid ydyw Rheſwm yn gorchymmyn iti heb oedi fyned at Criſt, a chrefu ei yſpryd ef, a bwrw ymmaith dy bechodau, a rhoddi dy hunan yn hollawl i'th Dduw, dy jachawdwr a'th fancteiddiwr, a myned iw Gyfammod ef, gydà llwyr ymroad byth nad ymmadewi ag efe, i•mwadu a thydi dy hun, ac ewyllyſiau y cnawd, ac a'r byd twyllodrus darfodedig, hwn, a rhoi allan dy holl obaith ar y Ne•oedd, ac at frys beth bynnag a guſt iti17 ſiccrhau y dedwyddwch ſydd heb ddiwedd iddo? Ac a lefeſi di wrthod hyn, pan ydyw Duw a chydwybod yn ei orchymmyu? Ac ymmhellach yr wyf yn eich cynghori chwi.
10. Deellwch pa fodd y mae Satan yn rhwystro eneidiau rhag eu ſancteiddio; fel y bo i chwi wybod pa gymmaint i ſefyll yn erbyn ei ddichellion ef. Rhai y mae efe yn eu twyllo trwy(i)Act 24.14. ac 28.22. ac 28.22. ac 24. 5, 6. adrodd iddynt yn ddrygionus, nad yw ſancteiddrwydd ddim ond drychiolaeth ffanci, neu Ragrith! (a phed fae Duw a marwolaeth, a Nefoedd ac uffern yn ffancies, hyn ellid ei gredu.) Rhai y mae efe yn eu llygru trwy allu chwant cnawdol, fel nad âd eu pechodau hwynt iw Rheſwm lefaru. Rhai y mae efe yn eu cadw mewn llwyr anwybodaeth, trwy ddygiad i fynu drwg rhieni anwybodus, ac eſgeuluſtra(k)Mal. 2. 7, 9. dyſgawdwyr annuwiol, y rhai idynt yn lladd yr Eneidiau: Rhai y mae efe yn eu twyllo â gobeithion bydol, ac yn Cadw eu meddyliau felly wedi, eu cymmeryd i fynu â phethau bydol, fel nas gall matterrion Tragwyddoldeb gael ond rhai meddyllau rhŷdd a dirym, neu cynddrwg a bod heb yr un: Rhai a rwyſtrir gan(l)Dihar. 13, 20. gymdeithas neu gwmpeini drwg y rhai a wawdiant fuchedd ſanctaidd, ac a'u denant i droi at ddifyrrwch ofer, ac rhai ydynt felly wedi eu(m)Epheſ. 4.18, 19. caledu yn eu pechod, megis ac y maent agos wedi diddarbodi, ac nid ydynt nac yn ofni digofaint Duw, nac yn gofalu am eu Hiechydwriaeth, eithr gwrando y pethau hyn y maent megis dynion yn cyſgu, ac nid18 oes dim au deffrŷ hwynt: Rhai a ddigalonnir â thŷb fod Duwioldeb yn fywyd mor(n)Mal. 1.13. anhyfryd, prudd, ac athriſt, fel yn hytrach na'i goddef hi, hwy a beryglant eu heneidiau, deued a ddelo ar hynny, (megis ped fae yn fywyd anhyfryd garu Duw, a gobeithio am lawenydd didrangc, ac yn fywyd hyfryd garu'r byd a phechod, a byw o fewn cam at uffern.) Rhai wedi eu hargyoeddi, ydynt yn(o)Mat. 25. 3, 8, 12 ac 24 43 44 oedi eu hedifeirwch, ac yn tybied i bod yn ddigon buan ar ôl hyn; ac maent yn pwrpaſu ac yn addo, hyd onid elo yn rhyhwyr, a darfod bywyd, ac amſer, a gobaith: a rhai pan ydynt yn gweled fod ſancteiddrwydd yn anghenrheidiol a(p)Joan 8.39. 42, 44. Rhuf. 3. 1, 2 Gal. 4.9. Mat 13. 19, 20, 21, 22, ac 15. 2, 3, 6. Gal 1.1. ſiommir gan ryw dŷb marw, neu henwau, neu ymddangoſiad, a llûn ſancteiddrwydd, naill ai o herwydd eu bod yn dal rhyw Opinion neu dŷb manwl, neu o herwydd eu bod yn cyſſylltu â phobl grefyddol, neu o herwydd eu bod o'r rhai hynny y maent hwy yn tybied ydyw'r wir Eglwys, neu o herwydd eu bod hwy wedi eu bedyddio â dwfr, ac yn cadw rhannau oddiallian o addoliad; ac nid hwyrach o herwydd eu bod yn offrymmu i Dduw lawer iawn o waſanaeth gwefus a defod difywyd yn ol athrawiaethau dynion y rhai ni aroglaſant erioed o Enaid ſanctaidd. Fal hyn Marweidd-dra, Bydoldeb, Rhagrith, a bod yn anianol ſydd yn rhwyſtro Myrddiwnau rhag ſancteiddrwydd, ac jechydwriaeth.
1911. Os mynnit ti fyth fod yn gadwedig na orthrymma Rheſwm trwy ddilyn Chwantau ac ewyllyſiau'r cnawd. Eithr weithiau(q)Pſal. 4.3. Hag. 1.5. Deut. 32. 7, 29. ymneilldua i yſtyried yn ddifrifol, ac mewn ſobrwydd. Rheſwm gwaſcaredig cyſgadur nid yw defnyddiol. Mae gan Dduw a chydwybod lawer iawn iw ddywedyd wrth iti, yr hyn mewn lliaws o gwmpeini a gofalon bydol nid wyt i gymmwys i glywed: cyflwr(r)Iſa. 1. 3 galarus ydyw bod dyn yr hwn ſydd ganddo Dduw, a Chriſt, Enaid, a Nefoedd, ac uffern i feddwl am danynt, yn anfodlon i ganiattau iddynt yr un ond meddyliau rhedegog. Ac na ddyru unwaith yn yr wythnos un awr iw(s)Job 24.27. Jer. 23.20. Pſal. 119.59. hyſtyried hwynt yn ddifrifol yn debyg i dyn! Diau nid oes gennyt bethau mwy iw hyſtyried. Bydded iti gan hynny ymroi weithiau i dreulio hanner awr, y yſt yried yn ddifrifol dy gyflwr tragwyddol.
12. Edrych(t)2 Co•. 4.18. Deut. 32.29. I Joan 2.17. 1Cor. 7.31. Luc 12.19.20. Joan 14.1.2. 1 Theſ. 5.23. ar y byd hwn a'i holl hyfrydwch, megis dŷn a rheſwm ganddo, yr hwn ſydd yn rhagweled y diwedd, ac nid megis anifail yr hwn ſydd yn byw yn anianol, ar yr hyn a fo ger bron ei lygaid ef, ydyw yn rhaid i mi ddywedyd iti, o ddŷn, y bydd rhaid, i ti farw? Celaneddau a llwch ſydd yn dy ddyſgu di i weled diwedd gogoniant daiarol, a holl hyfrydwch y cnawd. A'i peth ammheus ydyw na dderfydd dy gnawd ti ar fyrder? Ac etto a barattoi di troſto o flaen dy Enaid? Pa ffarwel galarus a fydd rhaid iti ar fyr amſer20 gymmeryd ar cwbl y mae dynion bydol yn gwerthu eu heneidiau am danynt! Ac o cyn gynted y bydd hynny! Och ddŷn, mae'r dydd yn agos, ychydig ddyddiau ychwaneg, ac yr wyt yn myned ymmaith! ac a lefeſi di fyw yn ammharod, ac ymadael â'r Nefoedd am y fath fŷd a hwn?
13. Ac yna myfyrria mewn ſobrwydd ar y(u)Luc 12.4. Eccl. 12.7. 2 Pet. 3.11. 2 Cor. 4.18. Phil. 3. 18, 20. bywyd i ddyfod: Beth ydyw bod yr Enaid i ymddangos ger bron y Duw byw, ac iw barnu i ddidrangc lawenydd neu drueni! Os ydyw'r cythrael yn dy demptio di i ammeu y cyfryw fywyd, cofia fod natur, a'r ſcrythur, a chydſyniad y bŷd, a'i demptaſiwnau ef ei hun yn dyſtion yn ei erbyn ef. O ddŷn a fedri di dreulio un dydd, mewn cwmpeini, neu yn unig, mewn Buſines, neu mewn ſegu•yd, heb rai meddyliau difrifol am dragwyddoldeb? Nid oes dim yn dangos yn fwy fod Calonnau dynion yn cyſgu, neu yn feirwon na hyn, nad ydyw meddyliau o ddidrangc lawenydd neu boen, mor agos, yn cymhell monynt i fod yn ſanctaidd, ac i orchfygu holl demptaſiwnau y cnawd, megis gwael bethau, a phethau na thalant moi hyſturied.
14. Deliwch ſulw, yſtyriwch o ba feddwl y mae y rhan fwyaf o Ddynion pan ydynt yn dyfod i(x)Num. 23.10. Mat. 25.8. ac 7. 21, 22. Dihar. 1.28.29. farw! Oddieithr rhyw adyn anobeithiol gwrthodedig, onid ydynt oll yn dywedyd yn dda am fuchedd ſanctaidd? Ac yn dymuno fod eu bywyd hwynt wedi ei dreulio ynghariad21 greſogaf Duw, ac ufydd-dod manylaf iw gyfreithiau ef? Ydynt hwy y pryd hynny yn dywedyd yn dda am drachwant ac hyfrydwch, ac yn mawrhau golud ac anrhydedd y byd? Oni fuaſei yn well ganddynt hwy farw megis y ſainct mwya graſel nag megis pechaduriaid diofal, cnawdol, bydol? Ac wyt ti yn gweled ac yn gwybod hyn, ac etto oni ſynni dy ddyſcu, a bod yn ddoeth mewn amſer?
15. Meddwl yn dda pa fath oedd y rhai hynny(y)Math. 23.29. 30, 31, 33. Heb. 11.38. Joan 8. 39. enwau pa rai ſydd yn awr yn anrhydeddus am eu ſancteiddrwydd. Pa fath fywyd a ddarfu i Sainct Petr, a Sainct Paul, Sainct Cyprian, Sainct Auguſtin, a'r holl Sainct eraill a'r Merthyron fyw? A'i bywyd o ddig•ifwch cnawdol ac o hyfrydwch ydoedd? Onid oeddynt hwy yn Sanctaidd yn fwy manylach nâ neb a'r a adwaenoſt ti? A watwaraſant neu a erlydiaſant hwy fuchedd ſanctaidd? Onid ydyw hwnnw yn ei ddamnio ei hunan yr hwn ſydd yn anrhydeddu henwau y Sainct, ac ni ddilyn monynt?
16. Yſtyria pa ragoriaeth ſydd rhwng Cristion a dyn(z)Math. 10.15. Rhuf. 2. Acts 10. 34, 35. cenhedlig. Anfodlon ydych i fod megis y cenhedloedd neu rai digred Ond ydych chwi yn tybied nad yw y Criſtion yn rhagori arnynt ond mewn opiniwn neu feddwl? Yr hwn nad ydyw yn ſancteiddiolach nâ hwynt hwy, ſydd yn waeth, ac a ddioddef mwy nâ hwynt hwy.
2217. Yſtyria pa ragoriaeth rhwng Criſtion(a)Rhuf. 2. 28, 29. Math. 25.28. Luc 19.22. Act 24 15 Gal. 4.29. Duwiol ac un annuwiol, onid ydyw holl wrthwynebwyr ſancteiddrwydd yn ein plith ni, etto yn llefaru am yr•n Duw, a Chriſt a'r ſcrvthur, ac yn proffeſſu yr un Gredo a chrefydd gydâ'r rhai hynny y maent yn eu gwrthwynebu? Ac onid ydyw y Criſt hwn yn Awdur ein ſancteiddrwydd ni, a'r ſcrythur hon yn e gorchymmyn hi? Chwiliwch a gwelwch, onid hyn ydyw y rhagoriaeth, fod y duwiol yn ddifrifol yn eu proffeſs, a'r annuwiol ydynt yn Rhagrithwyr, y rhai ydynt yn caſau ac yn gwrthwynebu yr ymarfer o'r un pethau y rhai y maent en hunain yn eu proffeſſu; crefydd pa rai nid yw ond iw condemnio hwynt, tra'r ydyw eu bywyd yn wrthwynebol iw tafodau hwynt.
18. Deall beth ydyw cyfrwyſtra'r cythrael, trwy godi cynifer(b)Eph. 4.14. Act. 20.30. 1 cor. 11.19. 1 Tim. 4.3. ac 2. 14, 16. 1 Tim. 1. 5, 6. Tit. 3.9. Eph. 4.3. ac. 1 cor. 12. Math 12.25. Rhuf. 2. 12, 27, 28, 29. o ſ•tau, a therfyſgau, ac ymryſſ••au ynghylch crefydd yn y byd: Sef i wneuthur i rai feddwl eu bod hwy yn grefyddol, oblegid eu bod yn medru ſiarad am eu opinionau, neu oblegid eu bod yn tybied mai eu plaid hwy yw'r goreu, o herwydd en terfyſg hwy yw'r mwyaf, neu 'r lleiaf; eu plaid hwynt yn uchaf, neu yn dioddef. Ac i droi cydymddiddan ſanctaidd a fo er adeiladaeth i ymryſſon ofer, ac i wneuthur dynion yn ddi Dduw, i ammau pob crefydd, ac na23 byddont gywir i'r un, o herwydd amrafael meddyliau dynion. Ond cofia nad yw y Grefydd Griſtianogol ond un, ac yn beth hawdd ei hadnabod wrth ei hên Reol, a'r Eglwys Catholic ſydd yn cynnhwys pob Criſtianogion, nid yw ond un. Ac os bûdd cnawdol, neu opinionau fyddant yn gwahanu dynion felly, fel y bo un rhan yn dywedyd, nini ydym yr holl Eglwys, a rhan arall yn dywedyd, nyni ydym (megis ped fae y Gegin yr holl dŷ, neu un dref neu Bentref yr holl Deyrnas) a fyddi di yn ynfyd wrth weled y gwahaniad hwn? Gwrando bechadur, yr holl Sectau hyn yn nŷdd y farn a gyttunant megis tyſtion yn dy erbyn di, os wyt ti heb fod yn ſanctaidd; o herwydd pa fodd bynnag yr oeddent yn ymrafaelio, y(c)Gal 1. 7, 8. Math. 28.20. cwbl o honynt ſydd Criſtianogion oeddent yn proffeſſu anghenrhaid Sancteiddrwydd, ac yn cyttuno â'r ſcrythur honno yr hon ſydd yn ei gofyn hi er nas gelli di yn hawdd ddattod pob ymrafael, di elli yn hawdd wybod y wir grefydd, hynny yw yr hon a ddyſgodd Criſt a'i Apoſtolion, yr hon a ddarfu i bob Criſtianogion broffeſſu, yr hon y mae'r Scrythur yn ei ofyn, yr hon ſydd yn gyntaf yn(d)Jag. •, 17. bur wedi hynny heddychol, tra yſprydol, nefol, cariadus, trugarog, a chyfiawn.
19. Ymmaith oddiwrth y(e)Eph. 5.11. Dihar. 23.20. 2 Cor. 6. 17, 18. Pſal 15.4. Deut 13. 13. cwmpeini hwnnw yr hwn ſydd anianol, ac yn elynol i Reſwm, Sobrwydd, a Sancteiddrwydd, ac yn wrthwyneb24 neb i Dduw, iddynt eu hunain, ac i titheu, a allant hwy fod yn ddoethion troſot ti, y rhai ydynt yn ffol tyoſtynt eu hunain? Neu gyfeillion iti, y rhai ydynt yn diniſtrio eu hunain? Neu doſturio wrth dy Enaid ti, pan ydynt hwy yn gwneuthur gwatworgerdd o'i damnedigaeth eu hunain? A fydd iddynt hwy dy helpio di i'r Nefoedd, y rhai ydynt yn rhedeg mor ffromwyllt i uffern? Dewis gymdeithas wêll, os mynnit ti fod yn wêll.
20. Na farna o fuchedd ſanctaidd yn ôl yr hyn yr wyti yn ei glywed, canys nis gellir moi hadnabod hi felly(f)Joan 5.40. Luc 14. 29, 39. Joan 6.35. 37, 45. profa hi tros amſer ac wedi hynny barna megis ac yr wyt ti yn cael achos. Na ddywed yn erbyn y pethau nis gwyddoſti, ped fuaſit ti ond byw mewn Cariad Duw, ac mewn ffydd fywiol o ddidrangc ogoniant, ac hyfrydwch ſancteiddrwydd, ac ofn uffern, ond am un Mis neu, ddiwrnod; ac â chyfryw galon, yn(g)Eſa 55. 6, 7. taflu ymmaith dy bechod, ac yn galw ar Dduw, ac yn trefnu dy Deulu mewn modd ſanctaidd, yn enwedig ar ddydd yr Arglwydd, yr wyfi yn llyfaſu dywedyd yu hyf, profiad a'th cymmhellai di i(h)Matth. 11,•9. gyfiawnhau buchedd ſanctaidd. Ond etto rhaid i mi ddywedyd iti, nid gwir ſancteiddrwydd ydyw hi, os wyt ti ond ei phrofi hi mewn rhai pethau, a(i)Luc 14.33. chadw o'r neilldu bethau eraill. Os Duw gan hynny a'th argyoeddodd di mai hon yw ei ewyllys ef ai ffordd, yr wyfi yn dy dynghedu di, megis yn ei breſennoldeb25 ofnadwy ef,(k)Datc. 22.17. Joan .1 12. Datc. 2. ac 3. 1 Joan 5, 12, 13. Pſal. 34.7. Pſal. 73.26. Matth. 25. Luc 20.38. Heb. 2.3. 1 Theſ. 2, 12. nac oeda ddim hwy, eithr bydded iti fwriadu, a rhoi i fynu dy hun yn hollawl i Dduw megis dy Dâd Nefol, dy jachawdwr, a'th ſancteiddiwr, a gwna Gyfammod tragwyddol ag efo, a'r pryd hynny efe a'i holl drugareddau fyddant yn eiddo ti, ei•âs ef a'th helpia di, a'i drugaredd ef a'th pardyna di, ei weinidogion ef a'th hyfforddant di, a'i bobl ef a weddiant troſotti, ac a'th cynnorthwyant, ei Angelion ef a'th gadwant di, a'i yſpryd ef a'th cyſſura, a'th ddiddana di a phan dderfydd y cnawd, ac y bydd rhaid i ti ymadael a'r byd hwn, dy jachawdwr y pryd hynny a dderbyn dy Enaid ti, ac a'i dwg hi i fod yn gyfrannog o'i ogoniant ef; ae efe a gyfyd dy gorph di, ac a'th gyfiawnha di yngŵydd y byd, ac a'th gnwaiff di yn gyd-ſtâd â'r Angelion; a thi fyddi fyw yngolwg a chariad Duw, ac yn nhragwyddol hyfrydwch ei ogoniant ef: Hyn ydyw diwed ffydd a ſanchteiddrwydd. Ond os tidi ydwyt yn caledu dy galon, ac yn gwrthod trugaredd, gwae(l)Luc 19. 27, Dihar. 29. 1, ac i. 25. t•agwyddol fydd dy ran di, ac yna ni bydd jachâd.
Ac yn awr Ddarllennydd, yr wyfi yn dymuno arnat, ac yr wyf yn dymuno gan Dduw ar fyngliniau, a'r i'r ychydig eiriau hyn ſuddo i'th calon di, ac a'r iti i darllein hwynt troſtynt a throſtynt drachefn, ac yſtyria megis dyn y bydd rhaid iddo ar fyrder farw. Oes neb yn haeddu dy gariad ti a'th uf, dd dod26 di yn fwy nâ Duw? A'th goffa diolchgar di yn fwy nâ Chriſt? A'th ofal di a'th ddiwydrwydd yn fwy nâ'th jechydwriaeth? Oes yr un dedwyddwch yn fwy dymunol nà'r Nefoedd? Neu'r un trueni yn fwy ofnadwy nag uffern? Neu oes dim iw yſtyried yn fwy nâ hwnnw yr hwn ſydd dragwyddol? A dàl hyfrydwch cnawdol tros ychydig ddyddiau am golled o'r Nefoedd, ac o'th Enaid anfarwol? Neu a fydd dy bechod ti ath lwyddliant ti yn felys wrth farwolaeth, ac yn nydd y farn? Megis ac yr wyt ti yn ddyn, ac megis fyth yr wyt yn credu fod Duw, a byd i ddyfod, ac megis yr wyt ti yn gofalu tros dy Enaid, pa un fydd a'i cadwedig neu ddamnedig, yr wyfi yn dymuno arnat, yr wyf yn gorchymmyn iti, meddwl am y pethau hyn! Meddwl am danynt unwaith yn y dydd o'r lleiaf. Yſtyria hwynt a'th feddyliau mwya ſobr a difrifol! Nid gwatworgerdd mor Nefoedd, ac nid brathiad chwannen mo uffern! Na wna watworgedd o jechydwriaeth, neu o ddamnedigaeth! Mi a wn dy fod ti yn byw mewn byd ynfyd, cynddeiriog, p'le y gelli di glywed rhai yn chwerthin ar y cyfryw bethau a'r rhai hyn, ac yn gwawdio buchedd ſanctaidd, ac yn taflu gwradwyddiadau atcas ar y duwiol, ac yn llawen yn yfed, a chwarau, a chweleua ymmaith ei hamſer, ac wedi hynny dywedyd, yr ymddiriedant hwy i Dduw am eu heneidiau, a gobeithiant fod yn gadwedig â llai o drafferth! Eithr os yr holl ddynion hyn ni newidiant eu meddyliau, a bod ar fyrder yn ddidrwſt, ac oni chwenychent fwyta eu geiriau, a dy muno darfod iddynt hwy fyw buchedd ſanchtaidd, er y buaſei hynny yn dwyn arnynt hwy wradwy27 a chyſtudd yn y byd, bydded i mi ddwyn gwradwydd twyllwr tr••fyth. Ond os ydyw Duw a'th gydwybod ti yn tyſtiolaethu yn erbyn dy bechod ti, a dywedyd i ti mai buchedd ſanctaidd ſydd oreu, nac yſtyria gwrthddywediad y byd gwallgofus, yr hwn fydd wedi meddwi â dichellion y cnawd: Eithr dyro i fynu dy Enaid a'th fywyd i Dduw trwy Jeſu Griſt mewn Cyfammod ffyddlon! Nac oeda ddim hwy ddyn, eithr bwriada yn llwyrfryd, bwriada yn anghyfnewidiol; a. Duw fydd yn eiddoti, a thi a fyddi yn eiddo iddo ef tros fyth Amen, Arglwydd trugarha wrth y pechadur hwn, ac felly bydded i'r bwriad hwn fod trwot ti ynddo ef.
Y cwbl ni(a)1 Cor. 1.25. Heb. 4.1. 2 Pet. 2.22. 1 Cor. 3, Gal. 3. ac 4, Math. 13.41. ac 18.7. ddarfu gwedi i ddynion ddechreu buchedd ſanctaidd, grefyddol; pob pren ac fydd yn blodeuo nid yw yn prifio yn ffiwythlawn, a phob ffrwyth nid yw yn cynnyrchu, yn dyfod i berffeithrwydd. Llawer fydd yn ſyrthio ymmaith, y rhai a dybid28 eu bod Wedi dechreu yn dda; a llawer ſydd yn dianrhydeddu enw Criſt trwy eu Tramgwyddiadau, a'i Gwendidau: Llawer ſydd yn triſtau Calonnau eu dyſgawdwyr,•c yn aflonyddu yn alarus Eglwys Criſt trwy eu hanwybodaeth, ai amryfuſeddau trwy fod yn ddoethion yn eu tŷb eu hunain, yn afreolus, yn gyndyn, yn ymryſtongar, yn ymbleidio, ac yn amrafaelio: Yn gymmaint a bod(b)phil. 3. 18, 19. Act. 20.30. gelyniaeth, ac angariad Criſtianogion yn rhwystrau mawrion i droedigaeth y byd diffydd, a chennedlic trwy oſod allan y ffydd Griſtianogol iw dirmyg a'i gwatwargerdd hwynt, megis ped fae hi ond amryfuſed dynion mor aflan a bydol, a beilchion ac eraill y rhai nis gallant fyth gyttuno yn eu plith. eu hunain: A llawer trwy eu gwyniau a'i hunangeiſiad ydynt yn faich ar y Teuluoedd a'r cymydogion lle y maent yn byw: Ac yn fwy trwy eu gwendidau, a'i gwyniau mawrion ydynt yn faglau, gorthrymderau, a beichiau arnynt eu hun•in. Pan ydyw y Grefydd Griſtianogol yn ei gwir drefnid, yn fywydo'r cyfryw ſanctaild(c)Matth. 5.16. 1 Pet. 3.1. 1 Pet. 2.15. ac 1.8. 2 Cor. 1.21. oleuni a chariad, o'r cyfryw burdeb a heddwch, o'r cyfryw ffrwythlonder a Nefoldeb, megis a phed fae yn ol hynny wedi ei goſod allan ymmywyd Criſtianogion, hi a orchymynnei aruthredd a pharch oddiwrth y byd, ac a wnai chwaneg iw troi hwynt, nâ chleddyfau, ie nag y gall geiriau yn unig wneuthur. Ac a wnai Criſtianogion yn fuddiol ac yn hawddgar y naill i'r llall:29 A'i bucheddau yn wledd ac yn hyfrydwch iddynt eu hunain. Yr wyfi yn gobeithio y bydd yn ryw help i'r Dibennion rhagorol hyn, os myfi mewn ychydig Hyfforddiadau iachus, profedig a agoraf i chwi ddyledſwyddau buchedd Criſtianogol.
1. cedwch fyth wir(d)2 Tim. 1.13. ac 3.7. Heb. 5.12. Phil. 1.9. Rhuf. 15.14. ffurf At•rawiaeth Criſtianogol, Dymuniad a dyledſwydd, yn brintiedig ar eich meddyliau, hynny yw, Deellwch hi yn eglur ac yn wahanedig, a chofiwch hi, fy meddwl yw, pwngciau mawrion crefydd ſydd gynnhwyſedig mewn Catechiſms. Chwi a ellwch fyth gynnyddu mewn Deall eglurach o'ch Catechiſms ped faech yn fyw gant o flynyddoedd. Na fydded y geiriau yn unig, ond y matter mor gartrefol yn eich Meddyliau, ac yw ſtafellau eich Tŷ. Y cyfryw(e)Eph. 4. 13, 14, col. 1.9. ac 2.2. ac 3.10. 1 Tim. 6.4. wybodaeth dwys a'ch ſefydla chwi yn erbyn twyll ac anghrediniaeth, ac a fydd fyth o'ch mewn chwi yn help barod i bob grâs, a phob dyledſwydd; megis a•y mae cyfarwyddid y creftwr iw waith ef: Ac o herwydd eifieu hyn pan ydych yn dyfod ymmlith rhai digred neu Hereticiaid, eu dadleuon hwy a dybier gennych chwi eu bod yn ddiatteb, ac a yſcydwant, oni ddidymchwelant eich ffydd chwi; a chwi yn hawdd a gyfeiliornwch mewn pwngciau llai, ac a flinwch yr Eglwys a'ch breuddwydion a'ch dadleuon. Hyn ydyw trueni neu ddinyſtr llawer o Broffeſwyr, tra yr ydynt yn barnu eraill ymmhob Dadl ynghylch Matterrion30 on Egwyſig, hwy nid ydynt yn gwybod yn dda Athrawiaeth y Catechiſm.
2. Byddwch fyw beunydd trroy ffydd ar(f)Joan 17.3. Epheſ. 3. 17, 18. Mat. 28 19. Eph. 1. 22, 23 ac 4. 6, 16. Rhuf. 5. •Cor. 12.9. Joan 16.33. 1 Joan 5.4. Heb. 4, 16, Col. 3.4. Act 7.59. Jeſu Griſt megis y Cyfryngwr rhwng Duw a chwi. Gwedi eich ſeilio yn ffydd yr Efengyl, a deall ſwydd Criſt gwnewch ddefnydd o hono fyth yn eich holl eiſieu. Meddyliwch ar gariad Ta dol Duw, megis yn dyfod attoch chwi trwyddo ef yn unig: Ac ar yr yſpryd megis gwedi ei roddi crwyddo ef eich pen, ac a'r Gyfammod gras megis wedi ei wneuthur a'i ſelio trwyddo ef, ac ar y weinidogaeth megis wedi ei danfon trwyddo ef, ac ar yr holl amſerau a chynnorthwyon, a gobaith megis wedi eu cael ai rhoddi trwyddo ef. Pan ydych yn meddwl am bechod, a gwendid, a themptaſiwnau, meddyliwch hefyd am ei râs digonol ef, fydd yn maddeu, yn cyfiawnhau, ac yn gorchfygu. Pan wyt ti yn meddwl am y byd, y cnawd ar cythrael, meddwl pa fodd y mae efe yn eu gorchfygu hwynt. Bydded i Athrawiaeth ef, a ſiampl ei berffeithaf fywyd ef, yn waſtadol och blaen chwi megis eich Rheol. Yn eich holl ammeuon, ac ofnau, ewch atto ef yn yr yſpryd, ac at y Tâd trwyddo ef, ac ef yn unig. Cymmerwch ef megis gwreiddyn eich bywyd a'ch trugareddau, a byddwch fyw megis arno ef a thrwy ei fywyd ef, a phan ydych yn marw, rhowch i fynu eich Eneidiau iddo ef, fel y bo iddynt hwy fod gydag ef lle y mae efe, a31 gweled ei ogoniant ef. Byw ar Griſt a gwneuthur defnydd o hono ymmhob eiſieu, a chyrchu at Dduw a galw arno, mwy vdyw nâ chreduniaeth gyffredinol Terfyſcus ynddo ef.
3. Felly credwch yn yr yſpryd Glan, megis ac i(g)Gal. 5. 16, 25. fyw a gweithio trwyddo ef, megis ac y mae'r corph trwy'r enaid. Ni(h)Math. 28.19. fedyddiwyd monoch iw enw ef yn ofer; (ond ychydig ſydd yn deall y meddwl a'r rheſwm o hono.) Criſt a ddanfonodd yr yſpryd i wneuthur dau waith mawr. I. At yr Apoſtolion a'r prophwydi iw(i)Joan 16.13. Heb. 2.3.4. hyſprydoli hwynt yn ddidwyll i bregethu'r Efengyl, a'i chadarnhau hi trwy withiau a'i thyſtiolaethu hi i'r oeſoedd a ddeuei, yn yr ſcrythrau ſanctaidd. 2. Ar ei holl(k)1 Cor. 12.12, 13. Rhuf. 8.9, 13. Joan 3.5, 6. aelodau, iw goleuo a'i ſancteiddio hwynt, i gredu, ac ufuddhau i'r Athrawiaeth ſanctaidd hon, (heb law ei ddawn cyffredinol ef i lawer iw ddeall a'i phregethu hi.) (l)2 Tim. 3. 15, 15. Jude 19.20.Gwedi darfod i'r yſpryd yn gyntaf draethu 'r Efengyl, mae efe trwyddi yn gyntaf yn adgenedlu ac wedi hynny yn rheoli yr holl wir ffyddloniaid. Ni roddir mono ef yn awr i ni i ddatcuddio Athrawiaethau newyddion, ond i ddeall ac ufyddhau i r Athrawiaeth a ddatcuddiwyd, ac a ſeiliwyd er ys talm o amſer ganddo ef. Megis ac y mae' r haul trwy ei rinwedd melus, a gwahanol yn rhoddi ac yn magu bywyd naturiol pethau a theimlad a bywyd ynthynt; felly y mae Criſt trwy ei(m)Ezek 36.27. Eſay 44.3. Rhuf. 8. 1, 5. 1 Cor. 6.11. Zech. 14.20. yſpryd ein bywyd32 yſprydol ni. Megis nad ydych chwi yn gwneuthur yr un gwaith naturiol ond trwy eich bywyd naturiol, felly ni ddylaech chwi wneuthur yr un yſprydol ond trwy eich bywyd yſprydol. Rhaid i chwi nid yn unig gredu, a charu, a gweddio trwyddi, ond trin eich holl alwedigaeth trwyddi; canys Sancteiddrwy•d i'r Arglwydd ſydd raid ei ſcrifennu ar y cwbl; pob peth a ſancteiddir i chwi, o herwydd eich bod chwi wedi eich ſancteiddio i Dduw. Rhowch y cwbl iddo ef, ac arferwch y cwbl iddo ef, ac am hynny rhaid i chwi wneuthur y cwbl yn nerth a chyfarwyddyd yr yſpryd.
4. Byddwch(n)1 Cor. 10••Rhuf. 11.36.2. Cor. 5. 7, 8. 1 Joan 3. 1. Rhuf•, 2, 3. Mat. 22. 37. Epheſ. •. 6. 2 Cor. 5. 19. Gal. 4. 4. 5, 6. fyw yn hollawl ar Dduw. Megis oll yn oll, megis achos cyntaf a Rheolwr pennaf, a diben eithaf pob peth. Bydded i ffydd, gobaith a chariad fod yn ymborthi beunydd arno ef. Bydded Ein Tâd yr hwn wyt yn y Nefoedd fod yn ſcrifennedig yn gyntaf ar eich calonnau, fel y bo iddo ef ymddangos yn drahaw•dgar i chwi, ac y bo i chwi yn hŷ ymddiried iddo, a bod cariad plentyn yn ffynnon dyledſwydd. Gwnewch ddefnydd o'r Mâb a'r vſprydd i'ch tywys chwi at y Tâd, ac o ffydd yn Griſt i ennyn ac i gadw yn fyw gariad Duw, Cariad Duw ydyw ein prif ſancteiddrwydd ni, ac a elwir yn enwedigol, efe a drwythau [ein San•teiddrwydd] at ba un nid yw ffydd yn Grist, ond y modd. Bydded eich diben pennaf chwi, yn aſtudio Criſt, i weled daioni, cariad, haw••garwch Duw ynddo ef. Duw yn da•nio nis cerir-mono mor hawdd, a Duw graſ•ol heddychol. Mae gennych33 gymmaint o'r yſpryd, ac ſydd gennych o gariad i Dduw; hwn yw dawn priodol yr yſpryd i holl feibion Duw trwy fabwyſiad, peri iddynt, â chariad ac hyder plentyn, i lefain, Abba, Dâd. Na adnabyddwch, na chwennychwch, na cherwch greadur yn y byd, ond yn unig megis tan Dduw! Hebddo ef, byded yn ddim i chwi, eithr megis y druch heb yr wyneb, neu lethyrennau gwaſcaredig heb yr yſtyr, neu megis corph heb'r Enaid. Na(o)Pſal. 30. 5. ac 63. 3. elwch ddim yn hawddfyd, neu hyfrydwch, ond ei gariad ef; na dim yn adfyd neu druen•, ond ei ddigllonedd ef, a'r achos a'r ffrwythau o honi pan fo dim yn ymddangos yn hawddgar ac yn ddymunol yr hwn ſydd yngwrthwyneb iddo ef, gelwch hy•ny yn(p)Phil. 3. 7. 8. dom! A gwrandewch ar y dyn hwnnw, megis(q)Mat. 16. 23. Satan, neu'r Sarph a fynnei eich denu chwi oddiwrtho ef; a chyfrifwch ef ond gwagedd, prŷf, a llwch, yr hwn a fynnei eich dychrynu chwi oddiwrth eich dyledſwydd euag atto ef. Ofnwch ef yn fawr, ond cerwch ef yn fwy. Bydded(r)2 Theſſ. 3. 5. 1. Cor. 13. 13. cariad yn enaid, ac yn ddiwedd pob dyledſwydd arall. Diwedd a rheſwm o'r lleill i gyd ydyw; ond nid oes ganddi ddim diwedd neu reſwm, ond ei goſygyn ai gwrthrych na feddyliwch am un Nefoedd arall, a diwedd, a dedwyddwch i ddyn, ond cariad y weithred olaf, a Duw y gwrthddrych olaf. na fydded eich crefydd chwi. mewn dim ond cariad Duw ynghyd a'i moddion a'i ffrwythau. Na pherchennogwch yr un triſtwch,34 chwant, neu lawenydd, ond cariad yn galaru, yn ceiſio, ac yn llawenhau.
5. Byddwch fyw mewn ffydd a gobaith o'r Nefoedd, a(s)co. 3. I, 2, 3, 4. Mat. 6. 19, 20, 21 33. 2 cor. 4. 17, 18. ac 7. Luc 12. 20. Heb 6. 20. 1 Cor. 15. 28. Epheſ. 4. 6. ac 1. 21 Phil. 3. 18, 20. Pſal. 73. 25, 26. Joan 18. 36. cheiſiwch hi megis eich rhan a'ch diwedd. Ymhyfrydwch beunydd eich eneidiau mewn rhagfeddyliau o ddidrangc olwg a cha•iad Duw. Megis ac a gwelir Duw ar y ddaiar ond megis mewn drych, felly yn gyfattebol y mwynheir efe, Ond pan dderfydd i gariad alaru, a cheiſio, a phechod a gelynion wedi eu gorchfygu, a ninnau yn gweled Gogoniant Duw yn y Nefoedd, hyfrydwch cariad y pryd hynny fydd yn berffaith. Chwi ellwch chwennychu mwy ar y ddaiar nag a ellwch chwi obeithio am dano. Na edrychwch am deyrnas o'r byd hwn, nac am fynydd Zion yn y diffaithwch. Mae Criſt yn teyrnaſu ar y ddaiar megis Moſe•yn y Gwerſyll, i'n tywys ni i wlâd yr Addewid: Ein dedw•ddwch perffaith ni fydd, pa•roddir y deyrn•s i'r Tâd, a Duw fydd oll y oll. Ammau neu feddwl dieithr, digalon am y Nefoedd, dwfr ydyw wedi ei dywallt a•y tân ſanctaidd, i ddiffodd eich ſanctaiddrwydd, a'ch llawenydd chwi. A fedrwc•chwi ymdeithio un dydd cyfan at y cyfryw ddiwedd, a byth heb feddwl am y lle yr ydych yn myned atto? Pan fo'r ddaiar ar y goreu, nid Nefoedd fydd. Nid ydych chwi yn byw ddim pellach trwy ffydd, fe•Criſtianogion nag yr ydych yn byw naill a'i am y Nefoedd yn ei cheiſio hi, neu ar y Nefoedd mewn gobaith a llawenydd.
356. Ymegniwch i wneuthur crefydd yn(t)Pſal. 1. 2, 3. ac. 84. 2, 10 ac 63. 3, 5. ac 37. 4. ac 91. 14. ac 119. 47, 70. Eſay 58. 14. Pſal 112. 1 Rhuf. 14. 17. ac 5. 1, 3, 5. 1 Pet. 1. 8. Mat. 5. 11, 12. Pſl. 32. 11. hyfrydwch i chwi. Edrychwch yn fynych ar Dduw, ar y Nefoedd, ar Griſt, ar yr Yſpryd, ar yr Addewidion, ar eich holl Drugareddau, ewch tros eich Profiadau. A meddyliwch pa achos o hyfrydwch uchel ſydd fyth o'ch blaen chwi, ac mor anweddaidd ydyw, ac mor niweidiol i'ch proffeſs chwi ydyw, bod un yr hwn ſydd yn dywedyd, ei fod ef yn gobeithio am y Nefoedd, etto yn byw mor brûdd a'r rhai hynny nad oes ganddynt ddim gobaith uwch nà'r ddaiar. Diau y dyn hwnnw a ddylai fod yn llawn o lawenydd, yr hwn a gaiff fyw yn llawenydd y Nefoedd tros fyth. Yn enwedig llawennychwch pan ydyw Cenhadau marwolaeth yn dywedyd i chwi, fod eich llawenydd didrangc chwi yn agos. Os nad ydyw Duw, a'r Nefoedd, gydâ ein holl drugareddau ni yn y ffordd ya ddigon o reſwm am fywyd llawen, nis gall fod yr un. Ffieiddiwch bob adroddiad yr hwn a fynnei wneuthur crefydd i ymddangos yn ſuchedd blin prûdd. A chymerwch ofal na oſodoch chwi moni allan felly i eraill, canys ni wnewch chwi monynt hwy fyth, i fod mewn cariad â hynny, nad ydych chwi yn ei wneuthur iddynt yn hyfryd ac yn hawddgar. Nid megis y Rhagrithŵr, trwy gymmell a llunio at ei feddwl a'i hyfrydwch cnawdol, ond dwyn i fynu y galon i gyttundeb ſanctaidd ag hyſrydwch crefydd.
367. Gwiliwch megis am eich Eneidiau yn erbyn y byd hwn ſydd yn gwenhieithio ac yn(u)Gal. 6. 14. 1 Joan 2. 15, 16. Jag. 1. 27. ac 4. 4, 5. 1 Joan 5. 4, 5. Rhuf. 12. 2. Gal. 1. 4. Tit. 2. 11. Mat. 19. 24. Luc 12. 16, 21. ac 16. 25. Jag. 1. 11. ac 5. 1, 2, 4, Luc 8. 14. Heb. 11. 26. temptio, yn enwedig pan ydis yn ei oſod ef allan megis yn fwy melus a hyfryd nâ Duw, a ſancteiddrwydd, a'r Nefoedd. Y byd hwn gydà ei hyfrydwch, ei olud, ai anrhydedd, yw'r peth y mae Satan yn rhoi yn y clorian, yn erbyn Duw, a ſanchteiddrwydd, a'r Nefoedd. Ac ni chaiff neb well nag y mae efe yn ei ddewis, a'i gyfrif yn oreu. Mae'r abwyd yn llithio y rhan anifeiliaidd, pan ydyw Rheſwm yn cyfgu. Ac os trwygymmorth y ſynhwyrau cnawdol y caiff y deyrngader, yr anifail a farchoga ac a reola 'r dyn; a rheſwm aiff yn gaeth-wâs ir awyddfryd gnawdol. Pan ydych yn clywed y Sarph, gwelwch ei golyn ef, a gwelwch farwolaeth yn canlyn y ffrwyth gwaharddedig. pan ydych yn codi, edrychwch i wared, a gwelwch eich cwymp! Ei reſwm ef yn gyſtal a'i ffydd ſydd yn wan, yr hwn am y cyfryw ffoledd, megis rhwyſc a gwagedd y byd, a feder anghofio Duw ai enaid, a marwolaeth, a'r farn, Nefoedd ac uffern, ie ac yn yſtyriol a orchymmyn iddynt ſefyll heibio Pa wybodaeth neu brofiad all wneuthur daioni ar y dyn hwnnw, yr hwn a anturia cymmaint am y cyfryw fyd, yr hwn y mae pawb ac a'i profodd ef yn ei alw yn wagedd yn y diwedd? Mor alarus gan hynny ydyw cyflwr dyn bydol? Oh ofnwch y byd pan fo yn gwenu, neu yn ymddangos yn felus37 ac yn hawddgar. Na cherwch mono, os ydych yn caru eich Duw a'ch Eneidiau.
8. Ffowch oddiwrth brofedigaethau a chroeſhoeliwch y(x)Rhuf. 8. 1, 12. Cal. 5. 24. Rhuf. 13. 14. Gal. 5. 17. Jude 8, 23. 2 Pet. 2. 10. Epheſ. 2. 3. 1 Pet. 2. 11. Mat. 6. 13. ac 26. 41. Luc. 8. 13. cnawd, a chedrwch reolaeth barrhaus ar eich chwantau a'ch ſynhwyrau. Llawer trwy ſyndod dirybudd trachwant a ſyrthiaſant yn gywilyddus. Gwedi darfod i'r rhai hyn trwy gynnefindra ddyſgu bod yn chwannog ac yn daer, yn gyffelyb i gi newynllyd, neu faedd chwantus, nid dymuniad, neu bwrpaſs diog a farweiddia, neu ai rheola hwynt! mor beryglus ydyw cyflwr y dyn hwnnw yr hwn ſydd ganddo y fath anifail awyddus yn waſtadol iw attal? Os efe a eſceuluſa ei wiliadwriaeth ond am un awr, mae efe yn barod iw fwrw ef yn bendramwnwgl i uffern. Pwy all fod yn ddiogel yn hir ſefyll ar ddibyn mor ofnadwy? Dagrau a thriſtwch llawer o flynyddoedd, yn fynych nis gallant adnewyddu y golled yr hon y gall un awr neu weithred ddwyn. O hyn mae ſiampl ofnadwy Dafydd a llawer o rai eraill yn ein Rhybuddio ni. Gwybyddwch beth ydyw hwnnw yr ydych chwi yn fwyaf tueddol iddo, pa un a'i trachwant, a ſeguryd, neu ormodedd mewn bwydydd, neu ddiodydd, neu chwarau, ac yno goſodwch eich gwiliadwriaeth cryfaf i'ch cadw yn ddilwgr. Ymrowch beunydd i farweiddio y trachwant hwnnw, a nedwch i naturiaeth anifeiliaidd, neu chwant orchfygu Rheſwm. Etto na ymddiriedwch, i bwrpaſſen yn un•c, ond ymmaith oddiwrth38 brofedigaeth. Na chyffwrdd, ie nac edrych ar yr hyn a fo yn temtio, cadw yn ddigon pell oddiwrtho, os ydwyt yn chwennych bod yn ddiogel. Pa drueni ſydd yn dyfod oddiwrth ddechreuad bychan? Profedigaeth ſydd yn tywys i bechu, a phechodau bychain at bechodau mwy, a'r rhai hynny at uffern! Ac nid ydyw pechod ac uffern i chwareu a hwynt! Agorwch eich pechod neu eich profedigaeth i ryw gvfaill, fel y bo i gywilydd eich achub chwi rhag perygl.
9. Cedwch i fynu Reolaeth parhaus cywraint ar eich(y)Jag. 1. 19. ac 3. 13, 17. 1 Pet. 3. 4. Mat. 5. 5. Eph. 4. 2, 3. Col. 3.12. (Z) Jag. 1. 26. ac 3. 5, 6. Pſal. 34. 13. Dihar. 18. 21. gwyriau a'ch tafodau, I'r diben hwn cedwch gydwybod dyner yr hon a fydd yn pigo, yn gofidio pan fo'ch yn pechu yn un o'r rhain. Bydded i wyniau ſanctaidd gael eu iawn drefnu, ac i wyniau hunan cnawdol gael eu hattal. Bydded i'ch tafodau wybod eu dyledſwyddau i Dduw ar i ddyn, ac Ymegniwch i fod yn gywraint, ac ymrowch iw Cyflawni hwynt. Gwybyddwch holl bechodau y tafod, fel y bo i chwi i gochel hwynt, canys eich diniweidrwydd a'ch heddwch chwi ſydd yn ſefyll yn fawr ar ddoeth Reolaeth eich tafodau.
10. Rheolwch eich(a)Deut. 15. 9. 2 Cor. 10. 5. Gen. 6. 5. Pſal. 10. 4. ac 94. 19. ac 119. 113. Dihar. 12. 5. ac 15. 26. Pſal. 119. 59. Dihar. 30. 32. Jer. 4. 14. Deut. 32. 29. meddyliau â diwydrwydd parhaus Cywraint. Neilltuwch eich hunain yn fynych i fyfyrio yn ddifrifol. Ymddiddennwch a'ch cydwybodau ac a'ch Duw, gydâ 'r hwn y39 mae eich gorchwyl mwyaf chwi! Goſodwch eich meddyliau ar waith a rheolwch hwynt, nedwch iddynt redeg ar wagedd ammerthynol. O nas gwyddech pa orchwyl beunyddol ſydd gennych iddynt! Y rhan fwyaf o ddynion ydynt annuwiol, wedi eu twyllo a'i hanrheithio, o herwydd eu bod hwy yn anyſtyriol, ac nis llefaſant, neu ni arferant eu rheſwm o'r neilldu ac yn ſobr; neu hwy a'i harferant ef ond megis caethwas mewn cadwynau yngwaſanaeth eu gwyniau, eu chwantau, a'i bûdd eu hunain. Ni bu efe eriod yn ddoeth, neu dda, neu ddedwydd yr hwn ni bu yn fobr ac yn ddiduedd yn yſtyriol. Pa fodd i fod yn ddaionus, i wneuthur daioni, ac yn ddiweddaf i fwynhau daioni a ddylai gymmeryd i fynu einholl feddyliau ni. Cedwch hwynt yn gyntaf yn ſanchtaidd, vna yn gariadus, yn lân, ac yn ddiwair. A cheryddwch hwynt yn fuan pan ydynt yn edrych at Bechod.
11. Bydded(b)Epheſ. 5. 16. Joan 14. 1, 2. Act 17. 2.1. 1 Cor. 7. 29. 2 Cor. 6. 2. Joan 9. 4. Luc 19, 42, 44, Pſal. 39, 4. Mat. 25. 10. 12. amſer yn dra gwerthfawr yn eich golwg chwi, ac yn ofalus ac yn ddiwŷd prynwch ef. Pa frŷs y mae efe yn ei wneuthur? Ac mor fuan yr aiff heibio? Ac yna mor uchel y prifir ef, pan nad ellir fyth alw yn ôl un munud o hono? O pa Orchwyl pwysfawr ſydd gennym ni i bob munud o'n hamſer, ped faen ni yn cael byw fil o flynyddoedd! Na chymmerwch fod y dŷn hwnnw yn ei iawn bwyll, neu yn adnabod ei Dduw, ei ddiwedd, ei waith, neu ei berygl, yr hwn40 ſydd ganddo amſer iw hebcor. Prynwch yr amſer nid yn unic oddiwrth chwarauon, a chellwair, a ſeguryd, rhodres, a gormodedd o gyſgu, ſiarad gwag, a bydoldeb, ond hefyd oddiwrth rwyſtrau daioni llai, y rhai a'ch rhwyſtrau chwi oddiwrth ddaioni mwy. Treuliwch amſer, megis dynion ſydd yn barod i fyned i fyd arall ym mha le y bydd rhaid cyfrif am bob munud o hono, ac y bydd gydà nyni tros fyth megis ac a buom ni fyw ymma; nedwch i iecnyd eich twyllo chwi i ddiſgwyl byw yn hir, ac felly i ddiofalwch anſynniol. Gwelwch eich glas-awr yn rhedeg, a chedwch gyfrif o'r amſer yr ydych yn ei d•eulio. A threuliwch ef yn union megis ac y mynnech ei atgofio ef gwedi ei ddarfod.
12.(c)1 Tim. 1. 5, 6. Mat. 19. 19. Rhuf. 13. 10. Joan 1. 16. Fpheſ. 4. 2, 15, 16. Col. 2. 2. ac 1.4. 1 Tim. 6. 11. Jag. 3, 17. Phil. 2. 1, 2. 1 Theſſ. 4.9. Joan 13.35. Mat. 5. Tit. 2.14. Phill. 2. 20, 21. Rhuf. 15. 1, 3. cerw•h bob maeth ar ddynion yn en amryw gyflyrau, a gwnewch cymmaint o dd•ioni iddynt ac a alloch Rhaid ini garu Duw yn ei holl greaduriaid, ei ddelw naturiol ef ar bo•dyn, ai ddelw yſprydol ar ei Sainct. Rhaid i ni garu ein Cymydog megis ein hunain naturiol hynny yw, Ein Cymydog naturiol megis ein hunain naturiol, â chariad o ewyllys da, an Cymydog yſprydol megis ein hunain yſprydol, â chariad o fodlonrwydd. Yngwrthwyneb i fodlonrwydd, ni a allwn gaſau ein Cymodog pechadurus, megis y rhaid i ni41 gaſau ein hunain pechadurus (yn llawer mwy.) Ond yngwrthwyneb i ewyllys da ni ddylem ni gaſau ein hunain, ein Cymydog, na'n gelyn. O nas gwyddei dynion pa gymmaint o Griſtianogrwydd ſydd yn ſefyll mewn cariad, ac yn gwneuthur daioni! A pha lygaid y maent hwy yn darllen yr Efengyl, y rhai nid ydynt yn gweled hyn ymmhob dalen? Ffieiddiwch yr holl hunan gariad hwnnw, balchder, gwŷn, y rhai ydynt elynion i gariad, a'r opinionau hynny, ac ymbleidiau. ymranniadau, a barnu, a rhoi drygair, y rhai a'i diniſtriant hi. cymmerwch ef ſydd yn dywedyd yn ddrwg am arall wrthych heb achos cyfiawn a galwad, fod yn gennad i'r cythrael i ddymuno arnoch gaſau eich brawd, neu i leihau eich cariad. Canys eich perſwadio chwi fod dyn yn ddrwg, ſydd yn amlwg yn eich perſwadio chwi cyn belled a hynny iw gaſau ef. Ceryddwch enllibiwyr y rhai ydynt yn dywedyd yn ddrwg am eraill. Na wnewch niwed i neb, na ddywedwch yn ddrwg am un dyn, oddieithr i hynny fod nid yn unig yn gyfiawn, ond yn anghenrheidiol i rwy ddaioni mwy. Cariad hawddgar ydyw. Y rhai ydynt yn caru a gerir. Bod yn caſau ac yn niweidiol ſydd yn gwneuthur dynion yn atcas. Car dy gymydog megis ti dy hun; ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt hwy yr un fſunyd, Luc 6. 31. Mat. 7. 22. Ydynt y Rheolau auredd o'n dyledfwydd tuag at ddynion, y rhai ſydd raid eu bod yn ſcrifennedig yn ddyfn ar eich Calonnau. Lle y bo hyn yn ddiffygiol, nid oes dim mor gau, mor greulon, yr hy•nad ellwch chwi gael eich denu i feddwl neu ddywedyd, neu wneuthur yn erbyn eich brodyr. Byddwch morchwannog42 chwannog i wneurhur daioni i bawb, ac ydyw, gweiſion Satan i wn•uthur niweid, ar hyn nis geliwch chwi wneuthur eich hunain, ceiſiwch annog eraill i wneuthur, rhoddwch lyfrau da, a denwch hwynt at y moddion, y rhai ſydd debyccaf i wneuthur daioni iddynt.
13. Ceiſiwch ddeall ammodau union cymmundeb Eglwyſig, yn enwedig•ndeb yr Eglwys gyffredinol, a'r Cymmundeodotb cyffretinol, yr hwn ſydd rail i chwi ddal â'r holl rannau, a'r rhagoyiaeth rhwng yr Eglwys megis gweledig ac anwele•ig. O herwydd ddiffyg y rhai hyn, mor alarus ydyw 'r naillduaeth ac ymbleidio ſydd yn ein plith ni? Darllennwch yn fynych, 1 Cor. 12. ac Eph. 4. 1. hyd y 17. Joan 17. 21, 22, 23. Act 4. 32. ac 2. 42. 1 Cor. 1. 10, 11, 13. ac 3.3. Rhuf. 16. 17. Phil. 2. 1, 2, 3, 4. 1 Theſ. 5. 12, 13. Act 20. 30. I Cor. 11. 19. Tit. 3. 10. Jag. 3. Col. 1. 4. Heb. 10. 25. Act 8. 12, 13, 37 1 Cor. 1. 2, 13. ac 3. 3, 4. 11. 18, 21. Aſtudiwch y rhai hyn yn dda. Rhaid ydyw bod gennych undeb a chymmundeb mewn ffydd a chariad a'r holl Griſtianogion yn y byd. Ac na wrthodwch gymmundeb Meawl, pan fo gennych alwad cyfiawn, cyn belled ac y maent heb eich cymmhell i bechu. Bydded eich cyfarfod arferol chwi gydâ yr EgIwys buraf, os y chwi all yn gyfraithlon (ac fyth edrychwch ar y daioni cyhoeddus:) ond weithian ar achoſion byddwch gyfrannogion gydâ Eglwyſydd diffygiol, beius, os ydynt yn wir Griſtianogion, ac heb eich gyrru chwi i bechu, fel y bo i chwi felly ddangos eich bod chwi yn eu perchennogi hwynt megis Criſtianogion, er eich bod chwi yn gwrthod eu llygredig,43 redigaethau hwynr. Na feddyliwch fod eich preſennoldeb chwi yn gwneuthur holl feiau y weinidogaeth, Addoliad, neu bobl i fod yn eiddo chwi (canys yna ni unwn ni ag yr un Eglwys yn y byd) gwybyddwch megis ac y mae'r Eglwys ddirgel yn cydſefyll o rai fydd yn gwneuthur cyfammod o'r galon, felly y mae'r Eglwys weledig yn cydſefyll o rai fydd yn gwneuthur cyfammod ar air y rhai ydynt yn gwneuthur proffeſs gredadwy o gyttundeb: Ac mae natur a'r ſcrythur yn ein dyſcu ni i gymmeryd gair pob dyn megis yn gredadwy, hyd oni bydd anffyddlondeb yn fforfettio ei gredit ef; y fforflfed hon ſydd raid ei phrifio, cyn y gellir cymmeryd yr un proffes ſobr yn hawl anddigonol. Na(d)Mat. 13. 29, 41. rwgnechwcb yn erbyn cymmundeb yr un Criſtion ſydd yn proffeſſu yn yr Eglwys. weledig. Er y bydd rhaid i ni wneuthur ein rhan i fwrw allan y diedifeiriol cyndyn trwy reolaeth Eglwys, (yr hyn onis gallwn ni wneuthur, y bai nid ydyw yn eiddo ni) nid ydyw preſennoldeb Rhagrithwyr yn niweidiol, ond yn fynych yn drugaredd i'r rhai pûr, os amgen mor fychan a fyddai 'r Eglwys yn ymddangos yn y byd. Rhagorfreintiau oddiallan ſydd yn p•rthyn i'r rhai ſydd yn gwneuthur cyfammod oddillan, a thrugareddau oddi•ewn i'r rhai pûr, gwahanedigaeth(e)Joan 16. 2. 1 Cor. 1. 10. Rhuf. 16. 17. Jag. 3. 15, 16, 17. ymranniad ſydd yn archolli, ac yn tueddu at farwolaeth. Caſewch hynny megis ac yr ydych yn caru iechyd yr Eglwys neu eich eiddo eich hunain: Y doethineb ſydd oddi uchod yn gyntaf pûr ydyw, wedi hynny heddychol. Fyth na44 wahenwch yr hyn a gyſſylltodd Duw. Doethineb ddaiarol, gnawdol, cythreulig ſydd yn peri cenfigen chwerw, a chynnen a•ymryſon, a therfyſc a phob gweithred ddrwg. Gwyn eu bŷd y tangneddyfwyr.
14. Gochelwch(f)1 Tim. 3. 6. Col. 2. 18. 1 Cor. 8. 1. 1 Cor. 4. 6. 1 Tim. 6. 4. 5. Jag. 3. 1, 17. falc•der, a hunan gariad mewn crefydd. Os unwaith y chwi a briſiwch yn ormod eich dealltwriaeth eich hunain, eich opinionau anaeddfed, ach camgymeriadau mawrion a fyddant yn hyfryd gennych, megis rhyw oleuni uwchlaw naturiaeth: Ac yn lle toſturio wrth y gwan, chwi a fyddwch yn afreolus, ac yn dirmygu eich Tywyſogion; a barnu vn ddibris bawb a fo yn anghyttuno, yn wrthwyneb i chwi, ac yn Erlidwyr o honynt os bydd gallu gennych; ac a feddyliwch bawb yn anoddefol nad ydynt yn eich cymmeryd chwi megis•yngor Duw, ach geiriau chwi megis cyfraith. Nag anghofiwch ddarfod i'r Eglwys ddioddef yn oeſtadol gan Broffeſſwyr afreolus, chwannog i ſarnu ar un llaw, (ac oh pa rwygiadau, ymrſonau, a thramgwyddiadau a ddarfu idd•nt hwy eu peri!) yn gyſtal a chan yr halogedig a'r Erlydwyr ar y llall. Gochelwch y ddau, a phan ydyw ymryſonau ar droed, byddwch yn llonydd ac yn ddiſtaw, ac nid yn rhy bryſſur a chedwch i fynu zêl tros gariad a heddwch.
15. •yddwch ffyddlawn a chydwybodus yn eich holl(g)Eph. 5. ac 6. Col. 3. ac 4. Rhuf. 13. 1, 7. 1 Pet. 2. 13, 15. Berthyrnaſei. Anrhydeddwch, ac ufyddhewch i'ch Rhieni ac eraill afo uwch na chwi. 45Na ddiyſtyrwch, ac na wrrhwynebwch Reolaeth, os ydych yn dioddef yn anghyfiawn trwyddynt hwy, ymddaroſtyngwch am y pechodau hynny, y rhai ydynt yn peri i Dduw droi eich amddyffynwyr i fod yn Orthrymwyr, ac yn lle grwgnach a gwrthryfela yn eu herbyn hwynt, diwygiwch eich hunain ac yna gorchymynnwch eich hunain i Dduw. Deiliaid a gweiſion, a phlant ſydd raid iddynt ufyddhau i'r rhai hynny ſydd nwch eu llaw hwynt, megis ſwyddwyr Duw.
16. Cedwch i fynu reolaeth Duw yn eich(h)Gorchymyn 4. Joſh. 24. 15. Deut. 6. 6, 7, 8. Dan. 6 Teuluoedd. Teuluoedd ſanctaidd achubwyr rhan crefydd yn y byd ydynt. Darllenwch yr ſcrythur a ll•frau da iddynt hwy. Ymddiddenwch â hwynt yn ddifrifol ynghvlch cyflwr eu heneidiau, a bywyd tragwyddol, gweddiwch yn daer gydâ hwynt, Gwiliwch arnynt yn ddiwyd; byddwch ddigllon yn erbyn pechod, ac yn llariaidd yn eich achos eich hunain; byddwch yn ſiamplau o ddoethineb, ac ammynedd; A chymerwch ofal ar fod dydd yr Arglwydd yn cael ei dreulio mewn pa•atoad ſanct•idd erbyn Tragwyddoldeb.
17. Triniwch eich(i)H•b. 13. 5. Gorchymyn 4. 2. Theſſ. 3. 10, 12. 1 Theſſ. 4. 7. 1 Tim. 5. 13. Dihar. 31. 1 Cor. 7. 29. galwedigaethau mewn ſancteiddrwydd a phoen. Na fyddwch yn byw mewn ſeguryd, na fyddwch yn ſegurllydd yn eich gwaith. Pa un bynnag a'i rhwym a'i rhydd ydych. Yn chwys eich aeliau y bydd rhaid i chwi fwyta bara, a gweithio chwe diwrnod, fel y bo gennych iw roi i'r hwn ſydd46 mewn eiſi•u. Rhaid i'r•orph (ſydd yn gullu) gael llafur cymn•wys yn••ſtal a'r enaid, ac os amgen y corph a'r enaid ni fyddant iachus. Ond••dded i'r cwbl fod ond megis llafur trafaeliwr, ae edrychwch at Dduw a'r Nefoedd yn y cwbl.
18. Nac yſpeiliwch monoch eich hunain a' r lleſhad ſydd iw gael oddiwirth(k)Mat. 2. 7. fugail cymmwys ffyddlawn, ir hwn y g•••wch agor eich cyflwr yn ddirgel, neu o'r lleiaf o(l)Pregethwr 4. 10. 11. gyfaill ſanctaidd ffyddlon: Ac na ddigiwch wrth eu(m)Dihar. 12. 1. ac 15. 5, 10, 31. Heb. 3. 13. ceryddon rhâi hwy•t. Gwae i'r hwn ſydd unic! Mor ddall a thueddol ydym ni yn ein achos ein hunain, ac mor anhawdd ydyw adnabod ein hunain heb cynnhorthwywyr Cymmwys ffyddlon! Yr ydych yn fforffettio y drugaredd fawr hon pan ydych yn caru gwenhiethiwr, ac yn ddigllon yn amdeffyn eich pechod.
19. (n)Luc 12. 40. 2 Pet. 1. 10. Phil I. 21, 23. Jer. 9. 4. 5. Matth. 7. 4, 5. 2 Cor. 5. 1, 2, 4, 8.Paratowch erbyn clefyd, dioddefiadau, a marwolaeth. Na phriſiwch yn ormod lwyddiant, na ffafor dyn. Os bydd dynion yn prifio yn ffugiol, ac yn greulon tuag attoch chwi, ſef y rhai hynny oddiar llaw y rhai yr oeddech yn haeddu gwell, na ryfeddwch wrth hynny, ond gweddiwch tros eich gelynion, erlidwyr, a ſlandwyr, a'r i Dduw droi eu calonnau hwynt, a maddeu iddynt. Pa drugaredd ydyw ein bod ni yn cael ein gyrru oddiwrth y byd at Dduw pan ydyw cariad47 y byd yn berygl mwyaf•r Enaid. Byddwch barod i farw, ac yr ydych yn barod i bob rhyw beth. Gofynwch i'ch calonnau yn ddifrifol, beth yw'r peth y bydd arnan ei ddiffyg yn awr marwolaeth? Ac ar frys ceiſiwch hynny yn barod, ac nid bod o honoch iw geiſio yn amſer eich cyf•ng•er.
20. ceiſiwch Ddeall llwybreiddrwydd heddwch•ydwybod, ac na fernwch o gyflwr eich eneidiau ar Reſymmau twyllodrus. Megis ac y mae gobeithion rhyfygus yn cadw dynion rhag troi, ac yn eu gwneuthur hwynt yn hŷf i bechu: Felly y mae ofnau diachos yn rhwyſtro ein cariad ni a moliant Duw, trwy dywyllu ei hawddgarwch ef: Ac maent yn diniſtrio ein diolchgarwch, a'n hyfrydwch yn Nuw, ac yn ein gwneuthur ni yn faich i ni ein hunain, ac yn dramgwydd mawr i eraill. Y Rheſymmau cyffred•nol och holl gyſſur chwi, ydynt 1. Graſuſol(o)Exod. 34. 6. natur Duw, 2. (p)Heb. 7. 25.Digonolrwydd Criſt. Ac 3. Gwirionedd a(q)Joan 4. 42. Joan 3. 16. 1 Tim. 4. 10. ac 2. 4. Matth. 2. 19 20. Datc. 2. 17. Eſa. 55. 1, 2, 3, 6, 7. chyffredinrwydd yr addewid, yr hwn ſydd yn rhoddi Criſt a bywyd i bawb, os hwy ai derbyniant ef; Ond y derbyniad hwn ſydd yn profi eich hawl neilltuol heb yr hwn nid yw y rhai hyn ond trwmhau eich pechod chwi. Cyttundeb â chyfammod Duw ydyw'r gwir ammod a phrawf o'ch hawl i Dduw megis eich Tâd, Jachawdwr, a Sancteiddiwr, ac felly i fendithion iachuſol y Cyfammod: Yr hwn gyttundeb os byw yn hwy a wnewch rhaid iddo48 ddwyn allan y dyledſyddau y rhai yr ydych yn cyttuno iddynt. Yr hwn ſydd yn cyttuno o'r galon a'r fod Duw yn Dduw iddo ef, yn Achubwr ac yn ſacteiddiwr iddo ef, ſydd mewn cyflwr o fywyd. Ond mae'r cyttundeb hwn yn cynnwys(r)Luc 14. 26, 33. 1 Joan 2. 15. Matth. 6. 19, 20, 21, 33. Col. 3. 1, 2. Rhuf. 8. 1, 13. gwrthodiad o'r byd. Llawer o wybodaeth, a choffadwriaeth, ac ymadrodd, a ſerchiadau bywiol, ydynt i gyd oll yn ddymunol iawn. Ond ni waſanaetha i chwi farnu eich cyflwr wrrh yr un o'r rhai hyn, canys nid ydynt oll yn ſiccr, Ond, 1. Os Duw, a ſancteiddrwydd, a'r Nefoedd ſydd yn cael y c•frif uchaf eich barn weithrerdol chwi, megis yn cael eu cyfrif yn oreu i chwi. 2. Ai cyfrif yn well yn newis a bwriad eich ewyllys, a hynny o flaen holl hyfrydwch y byd. 3. Ac•s byddwcn chwi yn eu ceiſio hwynt vn gyntaf ac yn bennaf; hwn ſydd yn•rawf didwyll o'ch ſancteiddiad chwi.
Griſtion, ar hir, a difrifol aſturtrwydd, a profiad yr wyf yn gorchymmyn yr hyfforddiudau hyn i ti, megis ffordd Duw yr hon a ddiwedda mewn dedwyddwch, yr Arglwydd a wnelo i ti ymroi ac a'th nertho di i ufyddhau iddynt. Hyn ydyw gwir dduwioldeb, a hyn ydyw bod yn grefyddol mewn gwirionedd. A hyn oll nid yw ddim amgen nâ bod yn ddifrifol yn gyfryw, megis ac y mae pawb yn ein plith mewn geiriau cyffredinol yn proffeſſu eu bod. Hen yw'r Grefydd a wna ragoriaeth rhwngoch a Rhagrithwyr, yr hon, a'ch ſefydla chwi, yn anrhydedd i'ch proffeſs,49 ac yn fendith i'r rhai hynny ſydd yn preſwylio o'ch amgylch. Dedwydd yw'r wlâd, yr Eglwys, y teulu ſydd yn cydſefyll o'r cyfryw rai a'r rhai hyn: Nid yw y rhai hyn nac yn erlid, Nac yn gwahanu 'r Eglwys, neu yn gwneuthur eu crefydd yn waſanaethgar iw cyfrwyſtra, iw dibennion uchel hwynt, neu iw chwantau cnawdol, neu yn ei gwneuthur yn fegin terfyſc neu wrthryfel, neu o zêl cenfigennus niweidiol, neu yn rhwyd i'r gwirion, neu yn Biſtol i ſaethu ar yr union o galon. Y rhai hyn ni buont yn gwilydd iw proffes, ni caledaſant ddynion annuwiol, a digred, ac ni pharaſant i elynion yr Arglwydd gablu: os gwna neb Grefydd o'i drachwantau, o greulondeb pabaidd, neu o rith duwiolde•, neu o'i opinionau neilltuol, neu o farn ryfygus, a diyſtyrwch o eraill, ac o derfyſc, a gwahaniadau, ac ymbleidiau, a neilltuadau direſwm, ac o ſefyll mewn pellder mwy nodadwy oddiwrth proffeſſwyr cyffredinol Criſtianogrwydd, nag a fynnei Duw iddynt hwy, Neu etto o dynnu i fynu wrŷch, neu gae trefn-eglwys a goſod gwinllan Criſt yn un a'r anialwch, Tymm•eſtl ſydd yn dyfod, pan fydd i'r grefydd hon a adeiladwyd ar y tywod ſyrthio, a'l chwymp fydd mawr. Er bod crefydd yr hon ſydd yn cydſefyll mewn ffydd a chariad i Dduw a dyn, yn marweiddio y cnawd, ac yn croeſhoelio'r byd, mewn hunan ymwadiad, goſtyngeiddrwydd, ac ymmynedd, mewn ufydd-dod pur, a ffyddlondeb ymmhob perthynas, mewn hunan reolaeth wiliadwrus, yn gwneuthur daioni, ac mewn bywyd Duwiol a Nefol, yn cael ei chaſau gany byd annuwiol, etto y, grefydd hon ni bydd byth yn ddianrhydedd i'ch Harglwydd, ac ni thwylla hi mo'ch eneidiau Chwitheu.
PA beth yw y Grefydd Griſtianogawol?
Y Grefydd Griſtianogawl yw y Cyfammod y wnaer mewn Bedydd, ac a gedwir a'r ol hynny; ym mha gyfammod y Mae Duw'r Tad, y Mâb, a'r Yſpryd Glân, yn rhoddi ei Hunan i fod yn Dduw ac yn Dâd heddychlon i ni, ac i fod yn Jachawdwr ac yn Sancteiddiwr i ni; ac yr ydym ninneu o'n rhan ni vn rhoddi ein hunain i fynu trwy ffydd iddo yntef; gan ymwadu a'r Cnawd, y bŷd, a'r Cythrael. Ac y mae 'r Cyfammod hwn iw adnewyddu yn fynnych, ond yn enwedigol yn y Sacrament o Swpper yr Arglwydd.
Ym mhâ Ie y mae ein rhan ni o'r cyfammod a'n Dyled-ſwydd wedi ei Egluro yn helaethach?
Yn y Gredo megis ſwm y Pethau ſydd iw credu. 2. Yng-weddi'r Arglwydd51 megis ſwm y pethau ſydd iw Dymuno. 3. Ac yn y Dêg Gorchymyn (fel y rhoddwyd hwy gan Griſt, ynghyd ag efangylaidd eglurhaad o honynt) megis ſwm y pethau ſydd i ni iw gwneuthur a'u harfer. Ac Dymma hwynt-hwy yn canlyn.
CRedaf yn Nuw Dâd oll gyfoethawg, Creawdwr nêf a daiar: Ac yn Jeſu Griſt ei un mâb ef, ein Harglwydd ni. Yr hwn a gaed trwy yr yſpryd Glân, a aned o Fair forwyn: A ddioddefodd dan Pontius Pilatus; a groeſhoeliwyd, a fu farw, ac a gladdwydd, a ddeſcynnod i uffern, y trydydd dydd y cyfododd o feirw; a eſcynnod ir Nefoedd, ac y mae yn eiſtedd ar ddeheulaw Dduw Dâd oll gyfoethawg, oddi-yno y daw i farnu byw a meirw. Cred•f yn yr yſpryd Glan, yr Eglwys lân Gatholic, cymmun y Sainct, maddeuant pechodau, cyfodiad y cnawd, ar bywyd tragwyddol. Amen.
FIN Tad yr hwn wyt yn y Nefoedd, ſancteiddier dy enw. Deled dy deyrnas: gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaiar hefyd: Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol; a maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr: Ac nac arwain52 ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg: Canys eiddot ti yw'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant yn oes oeſoedd. Amen.
DuW a lefarodd yr holl eiriau hyn gan ddywedyd, myfi yw yr Arglwydd dy Dduw; yr hwn ath ddug di allau o wlad yr Aiphr, o dŷy caethiwed.
ym mhâ Lè yr agorir yn gyflawn ac y cwbl gynnhwyſir y Grefydd Gristianogol?
Yn yr yſcrythur lân; ond yn enwedic yn y Teſtament Newydd: Lle gan Griſt, a'i Apoſtolion, a'i Efangylwyr, a yſprydoliaethwyd trwy ei yſpryd ef, y traddodir yn ddigonol yr Hiſtori ynghylch Criſt a'i Apoſtolion, lle y perffeithir yr Addewidion, a'r Athrawiaethau y ſydd iw credu, ac yr agorir yn dra-eglur y cyfammod o Râs, ac yr ordeinir Swyddogion eglwyſig, ynghyd ag Addoliad, a Disgyblaeth yr Eglwys: Ac yng-wy•odaeth y rhain, fe ddichon y Criſtianogion cryfa gynnyddu tra font byw ar y Ddaiar.
Beth ydych chwi yn y gredu ynghylch DUW?
Y mae un unig Dduw, yn Yſpryd, aneirif ei fywyd, annherfynnol yn ei ddeall, a'i ewyllys, tra perffaith alluog, doeth a da; y Tâd, y Gair a'r Yſpryd: Creawdwr, Rheolwr a diwedd pob peth; ein perchennog hollawl, ein Rheolwr tra Chyfiawn, a'n Tâd tra graſuſol a thra hawddgar.
Beth yr ydych yn ei gredu am y c•eadigaeth, a natur dyn, a'r Ddeddf yr hon a roddwyd iddo ef?
Duw a greodd yr holl fyd: Ac a wnaeth ddyn ar ei ddelw ei hun, Gen. 1.26. Yn yſpryd cyſſylltedig â chorph, mewn bywyd, Deall, ac Ewyllys, gydâ bywiowgrwydd ſanctaidd, doethineb, a chariad, i adnabod a charu, a gwaſanaethu ei Greawdwr yma ac yn dragywydd: Ac a orchymynnodd iddo fwytta o bob pren o'r ardd, ond gwarafunodd iddo fwytta o hren gwybodaeth, tan boen marwolaeth, Gen. 2. 16, 17.
Beth yr ydych chwi yn ei gredu am Gwymp dyn i bechod a thrueni?
Dyn gwedi ei demtio gan Satan, trwy bechu o'i wirfodd, a ſyrthiodd oddiwrth ei ſancteiddrwydd, ei ddiniweidrwydd, a'i ddedwyddwch tan gyfiawnder a digofaint Duw, tan felldith a damn•digaeth y gyfraith, a chaethiwed y cnawd, y byd, a'r cythrael; oddiwrth yr hwn y mae natur•echadurus, euog, a thruenus yn ymwaſcaru tros holl ddynol ryw: Ac ni ddichon yr un creadur ein gwaredu ni.
Beth yr ydych chwi yn ei gredu ynghylch prynedigaeth dyn trwy Jeſu crist.
Felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei unig anedig fâb, Joan 3. 16. i fod yn Jachawdwr iddynt. Yr hwn ac efe yn Dduw, ac yn un a'r Tàd, a gymmerodd ein natur ni ac aeth yn ddyn, a gaed trwy yr yſpryd Glan, a aned o fair forwyn, ac a alwyd Jeſu criſt. Yr hwn oedd yn berffaith ſanctaidd, heb bechod, efe a gvflawnodd bob cyfiawnder; ac a orchfygodd y cyth•ael, â'r byd, ac a roddodd ei hun yn Aberth tros ein pechodau ni, trwy ddiod lef marwolaeth felltigedig ar y Groes i'n prynu ni, ac i'n cymmodi ni â Duw; ac a gladdwyd, ac a aeth ymmlith y Meirw: Y trydydd dydd efe a adgyfodod, gan orchfygu marwolaeth, a ſelio y cyfammod newydd•a'i waed, e•e a orchymynnodd iw Apoſtolion, a Gwenidogion eraill, i bregethu 'r Efengyl i'r holl fyd; ac addawodd yr yſpryd Glan; ac yna efe a dderchafodd i'r Nefoedd, ymmhale y mae efe yn Dduw ac yn ddyn, yn Ben gogoneddus uwch-law pob pech iw Eglwys, a'n cyfryngwr nerthol ni gyda Duw yr Tâd.
Beth ydyw 'r Teſtament Newydd, neu Gyfammod, neu Gyfraith Grâs?
Duw trwy Jeſu Criſt ſydd yn rhadroddi i holl ddynol ryw, ef ei hun i fod yn Dduw ac yn Dad wedi cymmodi â hwynt, ei fâb i fod yn Jachawdwr iddynt, a'i yſpryd ſanctai•d i fod yn ſancteiddiwr iddynt, os hwy a gredant ac a dderbyniant y dawn, ac a roddant i fynu eu hunain iddo ef yn ôl hynny; gan edifarhau am eu•echodau, a chydſvnio i ymwrthod a'r cythrael, y byd a'r cnawd, ac yn ddi-ragrith (er nad yn berffaith) i ufuddhau i Griſt, a'i yſpryd ef hyd y diwedd, yn ôl cyfraith natur, a'i Athrawiaethau Efangyladd ef, fel y bo iddynt hwy gael eu gogoneddu yn y Nefoedd yn dragwyddol.
Beth ydych chwi yn ei gredu am yr yſpryd Glân?
Duw yr Yſpryd Glan a roddwyd gan y Tâd a'r Mâb i'r prophwydi, Apoſtolion, ac Efangylwyr i fod yn Tywyſog didwyll iddynt i bregethu ac i ſcrifennu athrawiaeth Jechydwriaeth; ac i fod yn dŷſt o'i ſiccr wirionedd hi trwy ei amrvw dduwiol weithrediadau. Ac efe a roddir i fywoccau, i oleuo, a ſancteiddio yr holl wir ffyddloniaid, ac iw hachub hwynt rhag y cythrael y byd a'r cnawd.
Beth yr ydych chwi yn ei gredu am yr Eglwys ſanctaidd Gatholic
Proffes y Grefydd Griſtianogawl wedi ei Hegluro.
I. Y•wyfi'n credu fod ûn Duw; yr hwn ſydd yn yſprvd annherfynol yn ei Fywyd, ei Ddeall, a'i Ewyllys; yn gwbl-berffaith Alluoc, Doeth, a Da, y Tad, y Gair, a'r Yſpryd; Creawdwr, Llywodraethwr, a Diben pôb dim ôll; ein Perchenogwr llwyrgwbl, a'n. Rheolwr trachyfiawn, a Rhoddwr graſuſaf y pethau da hynny i ni, ac ydym ni yn eu meddiannu, a'n Da hawddg•raf.
II. Yr wyfi 'n credu gwympo o Ddŷn, yr hwn a greuwyd yn yſpryd wedi gyſſylltu â chorph, ar Iûn Duw, mewn Bywyd, Deall ac Ewyllys, ynghyd a bywiowgrwydd ſanctaidd, Doethineb, a chariad, i adnabod, a charu, a gwaſanaethu ei Greawdwr yn y Byd hwn, ac yn y Byd y beri byth; yr wyfi'n credu Meddafi, i Ddyn trwy bechu o'i wir fodd, gwympo oddiwrth ei Dduw, ac oddiwrth ei ſancteiddrwydd a'i Ddiniweidrwydd, a'i fôd ef yn gorwedd tan ddigofaint Duw, tan felltith, a damnedigaeth y Gyfraith, a chathiwed y Cnawd, y Býd, a'r Cythrael. Ac yr wyfi'n credu ymmhellach, Garu o Dduw y Bŷd yn gymmaint, ac y rhoddodd efe ei unig anedig Fáb i fôd yn Achubwr iddynt: yr hwn, ac efe yn Dduw, ac yn un â'r Tád, y gymmerodd ein natur ni arno, ac a ddaeth i fôd yn Ddŷn; a gaêd trwy yr Yſpryd Glân, a anwyd o Fair forwyn, ac a enwyd Ieſu: Yr hwn ydoedd yn gwbl-ſanctaidd, yn ddi bechod, ac y gyf-lawnodd pôb cyfiawnder55 a orchfygodd y Cythrael a'r Bŷd, ac a'i rhoddodd ei hun yn Aberth tros ein pechodau ni, trwy ddioddef marwolaeth felltigedic ar y Groes, i'n Prynu ni, ac i'n cymmodi ni a Duw; a gladdwyd, ac a aeth ymmlhith y Meirw, ac a gyfododd drachefn y trydydd dydd, wedi gorchfygu Marwolaeth. Ac efe a gwbl ſefydlodd y Cyfammod o Ras, fel ac a dichon pawb, ac a wir edifarhaant ac a gredant gael Cariad y Tád, Gràs y Mâh, a Chymmundeb yr Yſpryd Glan; ac os gwir garant bwy Dduw, ac os ufyddhant iddo yn ddiragrirh, hwy a gant eu gogoneddu ganddo yn dragywyddol yn y Nefoedd: Ac fe gaiff yr Anghredadwy, y Di-edifeiriol, a'r Annuwiol fyned i goſpedigaeth dragwyddol.
A chwedi rhoddi gorchymyn iw Apoſtolion i bregethu 'r Efengyl i'r holl genhedloedd, ac addaw danfon yr Yſprvd Glan, efe a eſgynnodd i'r nefoedd; lle y mae efe vn Ben gogoneddus vwch-law pob peth i'r Eglwgys, ac yn Eiriolwr ſy'n cael ei wrando gan y Tád; yr hwn a dderbyn yno Eneidiau (y rhai a gyfiawnheuir) yn ôl eu ymadawiad â'u Cyrph: Ac a'r Ddiwead y Bŷd hwn, efe a ddaw drachefn, ac a gyfyd yr holl rai Meirw, ac a farna bawb yn ô eu gweithredoedd, ac a gyflawna ei farn yn drachyfiawn.
III. Yr wyfi 'n credu fod Duw'r Yſpryd Glân wedi ei roddi gan y Tâd a'r Mâb, i'r Prophwydi, a'r Apoſtolion, a'r Efangylwyr, i fod yn Arweinydd ac yn Gyfarwyddwr didwyll iddynt, wrth bregethu, a ſcrifennu Athrawiaeth iechydwriaeth; ac i fod yn Dyſt o ſiccr wirionedd yr Athrawiaeth honno, trwy ei amryw56 dduwiol weithrediadau; ac i fywoccau, goleuo, a ſancteiddio yr holl rai ſy'n cywir gredu, fel y gallont orchfygu y Cnawd, y Bŷd, a'r Cythrael. A phawb ar a ſancteiddier fel hyn, ydynt vn Eglwys Ián Gatholic i Griſt, a rhaid iddynt fyw mewn cymmundeb ſanctaidd, ac hwy a gant faddeuant o'u pechodau, a Bywyd tragywyddol.
Gan gredu fel hyn yn Nuw y Tád, y Máb, a'r Yſpryd Glán, yr wyfi yn rhoddi fy hunan i fynu iddo yr awr-hon, yn hollawl, ac o lwyrfrŷd calon, ſef, i'm Creawdwr, a'm Duw, a'm Tad heddychlon, fy Iachawdwr a'm Sancteiddiwr: A chan edifarhau am fy mhechodau, yr wyfi 'n ymwrthod â'r Cythrael, a'r Bŷd, a phechadurus chwantau y Cnawd: A chan ymwadu â mi fy hun, a chymmeryd i fynu fy nghroes, yr wyfi yn cydſynnio, ac yn cyttuno i ddilyn Criſt Tywyſog fy iechydwriaeth, mewn gobaith i feddiannu y Grâs a'r Gogoniant y mae fo'n ei addaw.